Cystadleuarth Y Pentref Cymreig Yn Mynd Yn Fwy Ac Yn Well
Mae cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru ar ei newydd wedd wedi’i lansio ar gyfer 2008 ac, yn gysylltiedig ag Un Llais Cymru, rydym yn gobeithio y bydd hyd yn oed mwy o bentrefi yn cael eu hannog i gystadlu eleni gyda chyfle gwell o ennill gwobr ranbarthol. Mae tair rhanbarth yn y gystadleuaeth - Gogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, a De Cymru, gan gymryd lle'r rhaniad blaenorol o Ogledd a De. Mae’r gystadleuaeth yn agored i bob cymuned pentref gwledig gyda gwobrau mewn categorïau ar gyfer Pobl, Masnach, Amgylchedd a Chyfathrebu.
Yn ôl trefn Un Llais Cymru bydd ardaloedd beirniadu’r rhanbarthau fel a ganlyn:
-
Gogledd Cymru: Gwynedd; Ynys Môn; Sir Ddinbych; Conwy; Wrecsam; a Sir Fflint
-
Canolbarth a Gorllewin Cymru: Powys; Ceredigion; Sir Benfro; a Sir Gaerfyrddin
-
De Cymru: Abertawe; Castell-nedd Port Talbot; Pen-y-bont ar Ogwr; Bro Morgannwg; Caerdydd; Rhondda Cynon Taf; Merthyr Tudful; Caerffili; Torfaen; Blaenau Gwent; Sir Fynwy; a Chasnewydd
Felly, os yw’ch pentref chi yn hoffi sialens, yn ymfalchïo yn ei chymuned ffyniannus ac angen hwb dylai gystadlu yng nghystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru
Wrth gynnig yn y gystadleuaeth genedlaethol hon, mae pentrefi’n cael y cyfle i rannu miloedd o bunnoedd i’w ddefnyddio yn eu cymuned ac i fod yn rhan o’r hyn y gellid ei ddisgrifio orau fel ‘prawf ffitrwydd cymuned’. Mae pentrefwyr yn cyfaddef yn aml nad yr arian yw’r prif fudd o gymryd rhan gan fod y gystadleuaeth yn gweithio fel catalydd i adeiladu cymunedau cryfach a dod â phobl at ei gilydd.
“Mae’r gystadleuaeth hon yn dathlu cymunedau sy’n gweithio’n lleol i wella bywyd eu pentref a bydd tri phentref o bob rhanbarth yn cael eu gosod ar y rhestr fer i dderbyn ymweliad gan dîm o feirniaid annibynnol a fydd yn penderfynu ar enillydd ym mhob rhanbarth. Bydd yr enillwyr rhanbarthol hyn yn brwydro i gael eu coroni fel Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru ac mae’r gystadleuaeth hefyd yn cynnig gwobrau am enillwyr categori gan ychwanegu chwistrelliad o arian y mae ei fawr angen i galonnau’n cymunedau.” Dyna sylwadau Simon White, o Un Llais Cymru.
Nod y gystadleuaeth yw dathlu cyfoeth ac amrywiaeth pentrefi Cymru wrth hybu cymryd rhan gan y gymuned, ac mae Calor, trefnwyr y Gystadleuaeth, am ysgogi gymaint o bentrefi ag sy’n bosibl i gymryd rhan. Eglurodd Suzanne Weir, rheolwr Pentref y Flwyddyn Calor ® :
“Trwy osod Cymru mewn grwpiau mewn tair rhanbarth gwahanol rydym yn hybu cymunedau nad ydynt wedi cymryd rhan mewn blynyddoedd blaenorol i fod yn rhan. Nid yw pentrefi sy’n cystadlu yn cael eu beirniadu yn nhermau beth sydd ganddynt o ran cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol ond am yr hyn maent yn ei wneud. Felly mae gan hyd yn oed y gymuned leiaf siawns dda o ennill gwobr os oes ysbryd cymunedol cryf yno ac y mae’n ymdrechu i wneud bywyd cystal â phosibl i’w thrigolion i gyd. Y neges yw – os ydych chi’n credu bod eich pentref chi yn lle arbennig i fyw ynddo ac rydych am ddathlu hyn yna ewch amdani!”
Mae cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru yn agored i bob pentref o 5,000 neu lai, a gallent ddewis cystadlu mewn hyd at bedwar gwahanol gategori – Pobl, Masnach, Amgylchedd a Chyfathrebu. Mae pob un yn werth £500 mewn gwobr ariannol. Gofynnir i bentrefi hefyd i egluro mewn llai na 500 o eiriau ‘Beth sy’n gwneud eich pentref yn lle arbennig?’ Mae gwobrau ariannol o £1,500 ar gael ar gyfer pob enillydd yng Ngogledd, Canolbarth a Gorllewin, a De Cymru yn ogystal ag enillydd dros Gymru gyfan (dyfernir £1,500 ychwanegol i’r enillydd cenedlaethol).
Anogir pentrefi i gynnig yn y pedwar categori er mwyn iddynt gael eu hystyried ar gyfer y teitl cyfan o Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru 2008.
Croesewir ceisiadau gan bentrefi ar unwaith a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi’u cwblhau yw Mehefin 30ain 2008.
Os ydych yn dymuno cofrestru’ch diddordeb neu os ydych am gael mwy o wybodaeth ar sut y gall eich cymuned chi wneud cais, os gwelwch yn dda e bostiwch info@calorvillageoftheyear.org, neu ymweld â gwefan y gystadleuaeth ar www.calorvillageoftheyear.org
-Diwedd-
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar gyfer y wasg oddi wrth: Sara Tomkins, Connectpoint, ffôn: 0161 817 4200, e-bost: sara.tomkins@connectpoint.co.uk
Nodiadau i Olygyddion:
Pentref y Flwyddyn Calor ®
Yn 2007, enillodd Wrtyn, pentref yn ymyl Wrecsam, deitl rhanbarthol Gogledd Cymru, gan syrthio o drwch blewyn y tu ôl i Llawrenny yn Sir Benfro a enillodd y teitl cenedlaethol i Dde Cymru.
Mae Calor, prif gyflenwr LPG (Nwy petrol hylifol) i’r rhai sy’n byw a gweithio yng nghefn gwlad, wedi cefnogi gweithgareddau gwledig yn Lloegr, yr Alban, a Chymru am 21 mlynedd drwy ei raglen Nawdd Gwledig, sy’n cynnwys cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru.
Mae cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor ® Cymru yn agored i gymunedau cefn gwlad drwy Gymru gyda phoblogaeth o 5,000 neu lai. Mae mynediad yn agored i bob Cyngor Cymuned neu grwpiau cymuned eraill os ydynt yn cydymffurfio â’r meini prawf canlynol:
-
Yn sefydliad lleol neu ymddiriedolaeth a sefydlwyd er mwyn gwella iechyd cymdeithasol, economaidd, neu amgylcheddol y gymuned leol ond ‘nid er mwyn elw’.
-
Pwyslais cryf ar gysylltiad yr unigolion lleol neu grwpiau sy’n weithredol oddi fewn i’r gymuned.
-
Partneriaethau, rhwydweithiau neu fforymau sy’n fywiog oddi fewn i’r gymuned leol.
Nodwch, os gwelwch yn dda fod Pentref y Flwyddyn Calor® yn nod masnach cofrestredig ac y dylid cyfeirio ato’n o dan bob amgylchiad.
Mae beirniaid Pentref y Flwyddyn Calor ® yn chwilio am gymunedau cytbwys, rhagweithiol, gofalgar sydd, heb ystyried eu maint, yn gwneud y gorau o gyfleoedd lleol i gynnal a chyfoethogi ansawdd byw i bawb sy’n byw yno.
Mae’r gystadleuaeth yng Nghymru yn asesu pedair agwedd ar fywyd pentref gwledig: Pobl, Masnach, Amgylchedd a Chyfathrebu. Gofynnir hefyd i bentrefi egluro mewn llai na 500 o eiriau “Beth sy’n gwneud eich pentref yn lle arbennig?” Gall pentrefi gynnig ar gymaint neu gyn lleied o gategorïau ag y dymunent.
Am wybodaeth cyffredinol ar Bentref y Flwyddyn Calor ® Cymru –
e-bost: info@calorvillageoftheyear.org, ffôn: 01926 318634 neu ymweld â gwefan y gystadleuaeth ddwyieithog: www.calorvillageoftheyear.org
Un Llais Cymru
Un Llais Cymru yw llais y Cynghorau Cymuned a’r Cynghorau Tref yng Nghymru.
Mae dros 700 o Gynghorau Cymuned a Chynghorau Tref yng Nghymru, yn cynrychioli’r haen o lywodraeth sydd agosaf at y bobl. Mae’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu yn amrywio o ardaloedd gwledig bach i drefi mawrion ac mae eu cyllidebau’n amrywio’n gyfatebol. Fodd bynnag, yr hyn sydd ganddynt yn gyffredin yw gwasanaethu eu cymunedau a gweithredu i wella ansawdd bywyd yn eu hardal. Maent yn cyflawni hyn drwy weithredu ystod o bwerau statudol a dyletswyddau.
Mae Un Llais Cymru yn darparu gwasanaeth cynghori ac arweiniad i’n cynghorau sy’n aelodau ac yn pledio achosion y sector ar y lefel genedlaethol, gan ddylanwadu ar ddatblygiad polisi a gweithio’n agos â phartneriaid allweddol i sicrhau y gall cynghorau lleol wasanaethu eu hetholaethau yn effeithiol. Rydym hefyd yn darparu cyfleoedd i gynghorau i rwydweithio a rhannu arfer da, er enghraifft drwy 16 o Bwyllgorau Ardal ar draws Cymru a’n Pwyllgor Cynghorau Lleol Mwy sy’n datblygu. Am fwy o wybodaeth gwelwch, os gwelwch yn dda, www.onevoicewales.org.uk
Mae Cefnogwyr Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru yn cynnwys:
• Un Llais Cymru
• Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru
• YDCW – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig
• Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol
|