Calor Village of the Year UK
 
 
 
 
 

 
10th Anniversary
 
 
 
 
Calor
 

Stop Press

Datganiad i’r Wasg
Cyhoeddwyd Pentref y Flwyddyn Calor – am 2016.

Fe gafodd enillydd Pentref y Flwyddyn Calor ei gyhoeddi heddiw – am 2016.

Mae gan y pentref buddugol ffug, Little Greenham, boblogaeth o 2,500 ac fe’i dewiswyd am y camau mawr ymlaen y mae wedi ei gymryd wrth fewnosod cynaladwyedd ymhob agwedd o fywyd y pentref.

Cafodd yr enillydd ei gyhoeddi mewn adroddiad newydd gan ‘Forum for the Future’ - Fforwm ar gyfer y Dyfodol, prif elusen datblygiad cynaladwyedd y DU, a gomisiynwyd gan Calor i ddathlu 10 mlynedd o wobr Pentref y Flwyddyn Calor.

Mae’r adroddiad yn edrych ymlaen 10 mlynedd arall at beth y gall y pentref buddugol edrych fel yn y flwyddyn 2016. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys darlun o’r pentref buddugol ffug yn 2016, yn dangos nifer o nodweddion arloesol bywyd pentref modern a fydd yn cynorthwyo byw yn gynaladwyol.

Felly beth sy’n newydd yn Little Greenham? Pam enillodd y wobr? Yn y lle cyntaf mae gan y pentref gae llysiau ei hun lle y mae bwyd yn cael ei gynhyrchu ar gyfer y gymuned leol. Yn ail, mae gan y pentref Gynllun Rhannu, sydd yn cefnogi cwmnïau newydd. Mae yna fferm wynt hefyd ynghyd a chronfa ceir trydanol. Mae’r pentref wedi adeiladu 300 o dai eco gyda 40% ohonynt yn dai fforddiadwy.

Cynllun arloesol arall sydd yn unigryw i’r pentref yw pecyn croeso i newydd ddyfodiaid, sydd yn cynnwys cerdyn smart Little Greenham, a ellid ei ddefnyddio i gael disgownt gyda bysiau a thacsis, ac i gofrestru allyriadau CO2 a faint o fwyd sydd yn cael ei brynu o ffynonellau lleol.

Mae gan y neuadd bentref, a ragwelodd y newid mewn cynhyrchu a defnyddio ynni, y paneli solar mwyaf effeithiol a mwyaf diweddar ac maent yn gallu gwerthu trydan yn ôl i’r Grid Cenedlaethol.

Wrth siarad am yr adroddiad, dywedodd , Peter Madden, Prif Weithredwr Fforwm ar gyfer y Dyfodol:

“Mae pentrefi ymysg rhai o’r cymunedau cryfaf sydd gennym. Maent yn ymateb yn greadigol yn barod i sialensiau newidiadau amgylcheddol a chymdeithasol, a gallant ddarparu esiampl gref i weddill y wlad ar sut i fyw yn gynaladwyol. Rydym am weld Pentref y Flwyddyn Calor yn annog hynny.”

Yn siarad ar ran Calor, dywedodd , Suzanne Weir, Rheolwraig Pentref y Flwyddyn Calor:

“Rydym yn meddwl fod hwn yn adroddiad grêt, ac rydym yn chwilfrydig ynghylch darganfyddiadau Fforwm ar gyfer y Dyfodol. Fe fyddwn yn defnyddio mewnwelediadau'r adroddiad ynghyd â sylwadau pobl sydd yn byw mewn cymunedau gwledig i siapio cyfeiriad y gystadleuaeth yn y dyfodol.

Wrth ymateb i werth cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor, dywedodd Martin Eddy, Cydgordiwr Ymgeisio St Neot yng Nghernyw:

“Mae cymryd rhan yng nghystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor wedi rhoi'r cyfle i ni gymryd stoc o bob dim yr ydym yn ei wneud fel cymuned. Gwnaeth y gystadleuaeth i ni edrych ac i adio fyny pob dim yr ydym yn ei wneud ac fe gawsom ein syfrdanu gan y cyfanswm.”

Os hoffech fwy o wybodaeth am Gystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor ymwelwch â www.calorvillageoftheyear.org neu ffoniwch 01962 629768.

Os hoffech fwy o wybodaeth am Fforwm ar gyfer y Dyfodol cysylltwch â Imogen Martineau ar 07944 401111 neu i.martineau@forumforthefuture.org.uk

 

Nodiadau i’r Golygydd

• Mae Gwobr Pentref y Flwyddyn Calor yn 10 mlwydd oed eleni

• Mae Calor, prif gyflenwydd NPH [nwy petrolewm hylifol] i bobl sydd yn byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad, wedi cefnogi gweithgareddau gwledig yn Lloegr, Yr Alban a Chymru am 20 mlynedd trwy’r rhaglen Gwobrwyo Wledig, sydd yn cynnwys cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor Lloegr a Chymru®, cystadleuaeth Cymuned y Flwyddyn Calor Yr Alban®.

• Mae beirniaid cenedlaethol cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® yn edrych am gymunedau gofalgar, cytbwys, rhyngweithiol sydd, beth bynnag eu maint, wedi gwneud y gorau o gyfleoedd lleol i gynnal a gwella safon byw eu holl breswylwyr.

• Cafodd yr adroddiad yma ei gomisiynu gan Calor ac fe’i hymchwiliwyd a’i hysgrifennwyd gan yr elusen datblygiad cynaladwyol Fforwm ar gyfer y Dyfodol.

• Mae’r adroddiad yma yn tanlinellu pryderon mwyaf cymunedau gwledig heddiw; prinder tai fforddiadwy, pobl ifanc yn gadael i fyw mewn dinasoedd, colli gwasanaethau pentrefol a newid yn yr hinsawdd.

• Mae Calor yn ymroi i daclo’r materion yma trwy fewnosod cynaladwyedd i galon ei fusnes

• Mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion ar sut y gall Gwobr Pentref y Flwyddyn helpu i wireddu hyn

• Mae Calor yn gobeithio defnyddio'r adroddiad i ailasesu criteria beirniadu Gwobr Pentref y Flwyddyn Calor

• Fforwm ar gyfer y Dyfodol yw prif elusen datblygiad cynaladwyedd y DU. Ein hamcan yw dangos fod dyfodol cynaladwyol yn bosibl ac yn ddeniadol. Rydym yn gweithio gyda mudiadau eraill sydd yn edrych ymlaen - mewn busnes a’r sector gyhoeddus - i ddarganfod ffyrdd ymarferol o adeiladu dyfodol sydd yn ddichonadwy yn ymarferol, yn gyfiawn yn gymdeithasol ac yn ffyniannus yn economaidd.

Watch the Calor Village of the Year video on Country Channel
2008 AWARDS VIDEO

Watch footage of the 2008 competition, including the Calor Village of the Year Awards Ceremony.
Watch video now

Free boiler worth £1350

BBQ Shop

Rural fuel

 

 

Company Information | Terms and Conditions | Acceptable Use Policy