Cliciwch ar y dolennau isod os hoffech fwy o wybodaeth ar yr enillwyr:
Pendeulwyn
Gresffordd
Llangernyw
Raglan
| |
Mae gan bentref Pendeulwyn, sydd wedi ei leoli i’r gogledd o’r Bont Faen yn Nyffryn Morgannwg, boblogaeth o 370. |
Yr Amgylchedd |
Mae gan bentref Pendeulwyn, sydd wedi ei leoli i’r gogledd o’r Bont Faen yn Nyffryn Morgannwg, boblogaeth o 370. Er nad yw’r plwyf wedi newid rhyw lawer o ran maint dros y blynyddoedd, mae’r boblogaeth wedi newid, ac yn ddiweddar mae’r pentref wedi mabwysiadu ymdeimlad newydd o bwrpas.
Mae bywyd cymunedol Pendeulwyn yn cael ei ganolbwyntio o amgylch yr eglwys a’r capel, y dafarn, yr ysgol a’r neuadd bentref. Mae’r cyfleusterau yma yn darparu nifer o fannau cyfarfod i breswylwyr allu cyfarfod a chymdeithasu, boed hynny yn anffurfiol neu yn ystod digwyddiadau a drefnir. Mae’r neuadd bentref wedi cael ei adnewyddu yn helaeth er mwyn gwella ei gyfleusterau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roedd y gwaith yma yn cynnwys hygyrchedd gwell i bobl anabl gan gynnwys ramp i gadeiriau olwyn ynghyd a boiler newydd ac ailweirio'r system drydanol. Mae gan yr eglwys, capel, ysgol a neuadd bentref bwyllgorau rheoli ac er eu bod i gyd yn annibynnol o'i gilydd, mae yna rai cynrychiolwyr ar fwy nag un pwyllgor sy’n arwain at rwydweithio effeithiol dros ben.
Mae preswylwyr Pendeulwyn yn fywiog ac yn hael, esiampl o hyn yw digwyddiad blynyddol a elwir “Wally’s Walk”. Caiff ei drefnu gan bentrefwr, ac mae’n daith gerdded noddedig 5 milltir o amgylch y pentref sydd yn ei bumed flwyddyn erbyn hyn. Mae elw'r digwyddiad yma yn cael eu rhoi i’r ysbyty canser lleol ac erbyn hyn mae’r cyfanswm a godwyd yn fwy na £18,000.
Does dim rhyfedd fod preswylwyr yn mwynhau cerdded o amgylch y pentref: mae safon taclusrwydd a glanweithdra ym Mhendeulwyn yn uchel iawn. Mae gan y pentref hefyd lawer iawn o nodweddion sydd yn holl hanfodol i’w dreftadaeth, yn amrywio o adeiladau rhestredig i ffynhonnau sanctaidd. Mae ystyriaeth am yr amgylchedd yn arbennig o bwysig i’r pentref. Mae strip o dir ar lan Afon Ely ym Mhendeulwyn yn gartref i blanhigyn prin ac mae yna hefyd hafan i grehyrod o fewn y plwyf. Anogir plant y pentref, o oedran ifanc iawn, i ystyried y wlad o’u hamgylch ac mae yna ardd naturiol gyda llyn o fewn tir yr ysgol i helpu disgyblion ddysgu am yr amgylchedd naturiol. |
|
Mae pentref Gresffordd wedi ei leoli rhwng Wrecsam a Chaer ac mae’r boblogaeth ychydig yn llai na 3,000. Mae’n cynnig bywyd cymunedol gwerthfawr ac amrywiol sydd yn cael ei yrru gan y preswylwyr cadarnhaol a brwd. |
Pobl Hyn |
Mae pentref Gresffordd wedi ei leoli rhwng Wrecsam a Chaer ac mae’r boblogaeth ychydig yn llai na 3,000. Mae’n cynnig bywyd cymunedol gwerthfawr ac amrywiol sydd yn cael ei yrru gan y preswylwyr cadarnhaol a brwd.
Mae Gresffordd yn cynnig rhywbeth i bawb, beth bynnag eu hoedran a beth bynnag eu diddordeb. Mae yna hysbysfyrddau ledled y pentref ac maent yn ffordd dda o gael gwybod beth sydd yn digwydd ynghyd a phapurau newydd lleol rhad ac am ddim. Nid yw preswylwyr yn rhy ifanc i ymuno a gweithgareddau sydd ar gael yn y pentref - mae yna hyd yn oed grŵp ar ôl geni yng nghanolfan iechyd y pentref i’r newydd anedig!
Mae’r pentref yn gweithio yn galed i ddarparu ar gyfer preswylwyr ac mae’n flaenweithgar wrth gyfarfod a’i amcanion. Er enghraifft, mae parc sglefrio bwrdd wedi cael ei agor yn y pentref eleni, sydd wrth gwrs wedi cael croeso arbennig gan y plant hyn a phobl ifanc yn eu harddegau. Cafodd y cynlluniau ar gyfer yr adnodd yma eu gwrthwynebu gan leiafrif o breswylwyr ar y dechrau. Ond, roedd y cyngor cymuned yn benderfynol o ddarparu rhywbeth i’r plant hyn a buont yn gweithio yn galed i egluro'r rhesymwaith y tu ôl i’r cynlluniau ac erbyn hyn mae’r gymuned i gyd yn gweithio gyda’i gilydd i gadw'r ardal yn lan a thaclus.
Mae pobl hyn yn chwarae rhan fywiog iawn o fewn cymuned Gresffordd. Maent yn cael eu cynrychioli ar y cyngor cymuned ynghyd a nifer fawr o grwpiau cymdeithasol eraill o fewn y pentref, sy’n galluogi pobl ifancach i rannu yn eu gwybodaeth a’u profiad. Mae yna nifer o glybiau a mudiadau yn bodoli yn arbennig i bobl hyn, er enghraifft, mae yna glwb ymddeol sy’n cyfarfod dwywaith y mis ac yn cynnig ystod o weithgareddau yn amrywio o sgyrsiau ar deithiau i gyngor ar faterion ariannol. Mae yna wasanaethau ar gael i bobl yn y pentref gydag anghenion arbennig fel cymorth cartref, ymwelwyr gwirfoddol a thai gwarchodol. |
|
Mae gan bentref Llangernyw, sydd wedi ei leoli rhwng Betws y Coed ag Abergele yng Nghonwy, boblogaeth o 650. |
Pobl Ifanc |
Mae gan bentref Llangernyw, sydd wedi ei leoli rhwng Betws y Coed ag Abergele yng Nghonwy, boblogaeth o 650. Mae’n gymuned draddodiadol sydd yn falch iawn o’i dreftadaeth. Mae’r pentref yn ffynnu gyda llawer i’w wneud ar gyfer bob oedran ynghyd a rhyngweithiad da rhwng bob carfan o’r gymuned.
Y ganolfan gymunedol, sydd yn digwydd bod yn ysgol y pentref hefyd , yw canolbwynt Llangernyw. Mae’r mwyafrif o grwpiau'r pentref, pwyllgorau a chlybiau yn cyfarfod yma ac unwaith y bydd y gwyliau haf hir yn dod i ben mae’r ganolfan yn dod yn fwrlwm o weithgaredd gyda’r nosau. Mae’n ganolfan yn ogystal i ddigwyddiadau sydd yn cynnwys y gymuned i gyd, er enghraifft mae yna sioe arddwriaethol flynyddol yn cael ei chynnal sy’n gynnwys croes doriad da o’r gymuned.
Mae mwyafrif llethol o drigolion Llangernyw yn siaradwyr Cymraeg rhugl ac mae’r gymuned yn darparu diwylliant a threftadaeth iaith Gymraeg bywiog sydd yn cael ei feithrin yn y cartref ac yn yr ysgol ynghyd a llawer o weithgareddau cymdeithasol. Caiff teuluoedd Saesneg eu croesawu i’r pentref ac maent yn cael eu hintegreiddio yn gyflym i mewn i fywyd Llangernyw. Mae’r plant yn cael eu cyflwyno i’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yn yr ysgol ac mae cyfleusterau ar gael yn ogystal i rieni allu dysgu'r iaith os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Mae’r gymuned yn ymroddedig i les diwylliannol, corfforol ac ysbrydol ei bobl ifanc ac mae’n darparu nifer o gyfleusterau a chyfleoedd iddynt. Mae yna nifer o grwpiau i’r mwyaf ifanc sydd yn cynnig cefnogaeth i blant a rhieni, yn arbennig rhieni sy’n gweithio sydd angen gofal plant ychwanegol. Mae plant hyn ag oedolion ifanc yn gysylltiedig â nifer o weithgareddau yn y pentref ac mae ganddynt eu clybiau eu hunain yn amrywio o ddawnsio disgo i ganu. Mae un grŵp ieuenctid yn y pentref, sydd yn darparu ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 a 30 mlwydd oed, wedi bod mewn bodolaeth am fwy na 30 mlynedd ac mae’n parhau i ffynnu. |
|
Mae gan bentref Raglan, sydd wedi ei leoli i’r de ddwyrain o Fynwy yng Ngwent, boblogaeth o 1,100. Mae’n bentref balch sy’n parchu ei orffennol, dathlu ei bresennol a goruwch y rhain mae’n cynllunio ar gyfer ei ddyfodol. |
Busnes |
Mae gan bentref Raglan, sydd wedi ei leoli i’r de ddwyrain o Fynwy yng Ngwent, boblogaeth o 1,100. Mae’n bentref balch sy’n parchu ei orffennol, dathlu ei bresennol a goruwch y rhain mae’n cynllunio ar gyfer ei ddyfodol.
Mae Rhaglan yn bentref prysur sydd wedi adeiladu i fyny gweithgareddau cymunedol a chyfleusterau i’w drigolion wrth gynnal beth sydd orau o’i hanes. Mae newydd ddyfodiaid yn cael croeso gan bentrefwyr cyfeillgar a chynorthwyol sydd yn gwneud yr ymgais i stopio a sgwrsio - gall taith 10 munud i’r siop droi i farathon hanner awr! Mae’r holl drigolion, gan gynnwys aelodau teuluoedd hen sefydledig neu newydd ddyfodiaid sydd wedi symud i’r pentref i ymddeol neu i fagu plant, yn gefnogol iawn o’r ymrafael weithgareddau sydd ar gael yn Rhaglan, sy’n amrywio o gymdeithas garddio i ddawnsio llinell a thai kwondo.
Mae cyngor cymuned Raglan yn flaenweithgar ac yn llywio nifer o fentrau sydd yn cael eu gweithredu yn y pentref. Gweithiodd y cyngor cymuned gyda’r cyngor sir i gael bws cymunedol yn y pentref a phrosiect nesaf y cyngor yw adeiladu neuadd bentref newydd gan fod yr hen adeilad wedi ei droi yn ysgol newydd i’r pentref.
Mae Rhaglan yn gymuned amaethyddol draddodiadol; ond mae nifer o fusnesau y tu allan i’r maes yma yn gwasanaethu'r pentref. Nid yw Raglan yn gymuned arunig gan fod yna gysylltiadau trafnidiaeth dda i ddinasoedd cyfagos Caerdydd a Bryste; ond, anaml iawn y bydd angen i drigolion deithio y tu allan i’r pentref am eu hanghenion bob dydd. Yn wir, mae nifer o bobl o ardaloedd cyfagos yn teithio i Raglan i fanteisio ar y gwasanaethau sydd ar gael. Yn wir mae siop trin gwallt a harddwch y pentref mor boblogaidd fel y bu’n rhaid iddynt roi cais i mewn yn ddiweddar i ymestyn eu hadeilad, gyda chefnogaeth gan y cyngor cymuned. |
|
Mae gan bentref Ystradfellte, sydd wedi ei leoli i’r gogledd o Lyn-nedd ym Mhowys, boblogaeth o oddeutu 200. |
Bywyd Cymunedol |