Cliciwch ar y dolennau isod os hoffech fwy o wybodaeth ar yr enillwyr:
Brynteg
Cilgerran
Betws Yn Rhos
Clawddnewydd
|
Mae gan Frynteg, sydd wedi ei leoli tair milltir i’r gorllewin o Wrecsam yng Ngogledd Cymru, dreftadaeth ddiwydiannol gyda dibyniaeth yn y gorffennol ar ddiwydiannau dur a glo. |
Pobl Ifanc |
Mae gan Frynteg, sydd wedi ei leoli tair milltir i’r gorllewin o Wrecsam yng Ngogledd Cymru, dreftadaeth ddiwydiannol gyda dibyniaeth yn y gorffennol ar ddiwydiannau dur a glo. Mae’r pentref wedi gweld llawer o newidiadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf ond mae’n parhau i fod yn gymuned gref gyda rhwydwaith o gysylltiadau agos.
Mae newydd ddyfodiaid yn cael eu croesawu i’r pentref ac yn cael eu hannog i ymuno a’r gwahanol grwpiau a’r gweithgareddau sydd ar gael. Mae’r siopau lleol yn arddangos posteri yn rhoi gwybodaeth ar ddigwyddiadau cymunedol ac mae yna wefan cymunedol i sicrhau fod pentrefwyr yn gwybod beth sydd yn digwydd. Mae newyddlen gymunedol yn cael ei gyhoeddi pedair gwaith y flwyddyn ac yn cael ei ddosbarthu yn rhad ac am ddim i bob cartref yn yr ardal. Mae hyn yn galluogi grwpiau i hysbysebu eu gweithgareddau a’u digwyddiadau, hyrwyddo'r gwaith y maent yn ei wneud o fewn y gymuned ac apelio am aelodau newydd. Mae fideo, a baratowyd gan breswylwyr lleol ar y newidiadau sydd wedi digwydd yn ystod y ddwy flynedd diwethaf wedi cael ei anfon i bob cartref yn y pentref. Roedd y fideo yn cynnwys slip ymateb y gallai preswylwyr eu defnyddio i roi eu barn ar y newidiadau. Mae’r ymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn.
Mae’r pentref yn cynnwys Neuadd Goffa, Canolfan Dysgu Gydol Oes, Tŷ Cymunedol a safle chwaraeon/gweithgareddau sydd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Mae lefel y gefnogaeth sydd ar gael yn y gymuned yn syfrdanol ac mae’r niferoedd o breswylwyr sydd yn ymwneud a gwaith cymunedol yn parhau i dyfu. Yn arbennig mae’r pentref yn gweithio yn galed i ddarparu cyfleusterau i’r plant a’r bobl ifanc. Mae ystod eang o weithgareddau ar gael gan gynnwys cynllun chwarae yn ystod y gwyliau, dau grŵp meithrin, clwb ieuenctid, timau pêl droed a hyfforddiant tennis. Ymgynghorwyd â phobl ifanc y pentref ar y prosiectau yma i gyd ac fe fyddant yn cael y cyfle i gyflwyno sylwadau ar unrhyw ychwanegiadau neu newidiadau yn y dyfodol.
Mae Brynteg wedi cyflawni llawer ac mae’n parhau i weithio yn galed er mwyn cyflawni hyd yn oed fwy. Mae’r gymuned yn gweithio yn dda gydag ystod o gyrff gwirfoddol, statudol a phreifat gyda’r amcan o wella ansawdd bywyd i’r preswylwyr i gyd. |
|
Mae gan Frynteg, sydd wedi ei leoli tair milltir i’r gorllewin o Wrecsam yng Ngogledd Cymru, dreftadaeth ddiwydiannol gyda dibyniaeth yn y gorffennol ar ddiwydiannau dur a glo. |
Bywyd Cymunedol |
Mae gan Frynteg, sydd wedi ei leoli tair milltir i’r gorllewin o Wrecsam yng Ngogledd Cymru, dreftadaeth ddiwydiannol gyda dibyniaeth yn y gorffennol ar ddiwydiannau dur a glo. Mae’r pentref wedi gweld llawer o newidiadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf ond mae’n parhau i fod yn gymuned gref gyda rhwydwaith o gysylltiadau agos.
Mae newydd ddyfodiaid yn cael eu croesawu i’r pentref ac yn cael eu hannog i ymuno a’r gwahanol grwpiau a’r gweithgareddau sydd ar gael. Mae’r siopau lleol yn arddangos posteri yn rhoi gwybodaeth ar ddigwyddiadau cymunedol ac mae yna wefan cymunedol i sicrhau fod pentrefwyr yn gwybod beth sydd yn digwydd. Mae newyddlen gymunedol yn cael ei gyhoeddi pedair gwaith y flwyddyn ac yn cael ei ddosbarthu yn rhad ac am ddim i bob cartref yn yr ardal. Mae hyn yn galluogi grwpiau i hysbysebu eu gweithgareddau a’u digwyddiadau, hyrwyddo'r gwaith y maent yn ei wneud o fewn y gymuned ac apelio am aelodau newydd. Mae fideo, a baratowyd gan breswylwyr lleol ar y newidiadau sydd wedi digwydd yn ystof y ddwy flynedd diwethaf wedi cael ei anfon i bob cartref yn y pentref. Roedd y fideo yn cynnwys slip ymateb y gallai preswylwyr eu defnyddio i roi eu barn ar y newidiadau. Mae’r ymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn.
Mae’r pentref yn cynnwys Neuadd Goffa, Canolfan Dysgu Gydol Oes, Tŷ Cymunedol a safle chwaraeon/gweithgareddau sydd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Mae lefel y gefnogaeth sydd ar gael yn y gymuned yn syfrdanol ac mae’r niferoedd o breswylwyr sydd yn ymwneud a gwaith cymunedol yn parhau i dyfu. Yn arbennig mae’r pentref yn gweithio yn galed i ddarparu cyfleusterau i’r plant a’r bobl ifanc. Mae ystod eang o weithgareddau ar gael gan gynnwys cynllun chwarae yn ystod y gwyliau, dau grŵp meithrin, clwb ieuenctid, timau pêl droed a hyfforddiant tennis. Ymgynghorwyd â phobl ifanc y pentref ar y prosiectau yma i gyd ac fe fyddant yn cael y cyfle i gyflwyno sylwadau ar unrhyw ychwanegiadau neu newidiadau yn y dyfodol.
Mae Brynteg wedi cyflawni llawer ac mae’n parhau i weithio yn galed er mwyn cyflawni hyd yn oed fwy. Mae’r gymuned yn gweithio yn dda gydag ystod o gyrff gwirfoddol, statudol a phreifat gyda’r amcan o wella ansawdd bywyd i’r preswylwyr i gyd. |
|
Mae Cilgerran, sydd wedi ei leoli i’r de o Aberteifi yn Sir Benfro, yn bentref sefydledig gyda safonau traddodiadol a chroeso cynnes a chyfeillgar. |
Yr Amgylchedd |
Mae Cilgerran, sydd wedi ei leoli i’r de o Aberteifi yn Sir Benfro, yn bentref sefydledig gyda safonau traddodiadol a chroeso cynnes a chyfeillgar.
Mae’r amgylchedd yn bwnc pwysig iawn i breswylwyr Cilgerran. Er mwyn lleihau'r llygredd gan geir, mae yna rwydwaith eang o lwybrau o amgylch y pentref a gaiff eu defnyddio lawer iawn gan bobl leol ac ymwelwyr. Mae yna drywydd beicio poblogaidd iawn hefyd i Aberteifi ac mae yna sawl bws bob dydd i Aberteifi, Crymych ac ymhellach. Mae’r pentref yn cael ei gadw yn daclus gan ofalwr pentrefol sydd yn cael ei gyflogi gan y Cyngor Cymuned ac mae yna adnoddau i ailgylchu gwydr a dillad yn y pentref, gyda banc papurau newydd i ddod yn fuan.
Mae pentrefwyr yn cael gwybod am ddigwyddiadau cymunedol trwy gyfrwng newyddlen y plwyf, mae yna hefyd sawl hysbysfwrdd a dau wefan pentrefol. Prif ganolfan y gweithgareddau yma yw’r neuadd bentref. Roedd y neuadd ar fin cau i lawr ychydig flynyddoedd yn ôl. Gweithiodd gwirfoddolwyr yn galed iawn, a chyda cefnogaeth gan y gymuned gyfan, codwyd ddigon o arian i dalu am raglen adnewyddu. Mae’r neuadd yn hunan cynhaliol erbyn hyn ac mae gweithgareddau i godi arian yn parhau er mwyn talu am waith cynnal a chadw ac i wella’r cyfleusterau.
Gyda llawer llecyn o ddiddordeb o amgylch y pentref, mae gan Gilgerran lawer i’w gynnig i breswylwyr ac ymwelwyr. Mae yna gastell o’r 12fed ganrif ger canol y pentref ac mae mynediad yn rhad ac am ddim i breswylwyr. Mae cwmni theatr deithiol yn perfformio dramâu gan Shakespeare yng ngerddi’r castell yn ystod misoedd yr haf. Mae’r pentref wedi ei leoli ar lan afon Teifi ac mae Gwarchodfa Natur Corsydd Teifi o fewn ffin y gymuned. Mae’r Warchodfa yn cynnwys cannoedd o aceri o gorsydd, coedwig a thir fferm ac mae ar agor trwy gydol y flwyddyn. Mae’n cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru ac mae gan Gyngor Cymuned Cilgerran aelodaeth gysylltiol er mwyn sicrhau y gall unrhyw breswylydd lleol ymgeisio am ganiatâd parcio yn rhad ac am ddim.
|
|
Mae Betws yn Rhos, sydd wedi ei leoli yn agos i Abergele ar arfordir Gogledd Cymru, yn bentref cyfeillgar a bywiog sydd yn gweithio yn dda gyda’i gilydd, yn gwrando ac yn gweithredu ar anghenion ei breswylwyr i gyd. |
Busnes |
Mae Betws yn Rhos, sydd wedi ei leoli yn agos i Abergele ar arfordir Gogledd Cymru, yn bentref cyfeillgar a bywiog sydd yn gweithio yn gweithio yn dda gyda’i gilydd, yn gwrando ac yn gweithredu ar anghenion ei breswylwyr i gyd.
Gyda dim ond 518 ar y rhestr etholwyr, mae Betws yn Rhos yn bentref bach mewn maint, ond mae yna gymuned busnes bywiog iawn yn y pentref, yn gwasanaethu nid yn unig bobl leol ond yr ardaloedd o amgylch yn ogystal. Mae hen adeiladau fferm wedi cael eu trawsnewid i fod yn unedau diwydiannol sydd yn cael eu llogi i fusnesau bychan gan gynnwys gwneuthurwr dodrefn a gosodwr carpedi. Mae caeau'r un fferm wedi cael eu troi yn gwrs golff sydd wedi creu hyd yn oed fwy o gyfleoedd gyflogaeth. Mae’r angen cyffredinol am arallgyfeirio fferm yn yr ardal wedi arwain at nifer o brosiectau eraill gan gynnwys cwmni cacenni cartref sydd yn cael ei redeg gan wragedd fferm leol.
Mae pobl ifanc a phobl hyn wedi cael eu hintegreiddio yn llawn i mewn i’r gymuned holl gofleidiol yma. Mae yna ystod eang o gyfleusterau yn y pentref i bobl ifanc, y diweddara yw cae chwarae. Cafodd hwn ei sefydlu gan ddefnyddio arian a godwyd gan y pentref ac mae’n darparu cae pêl droed, llecyn bob tywydd ynghyd a bloc sy’n cynnwys pafiliwn, ystafell gyfarfod a chegin - y cyfan yn cael eu defnyddio yn ddyddiol. Mae yna fyngalos i bobl hyn yn y pentref ac mae gofalwyr cartref â chyfleusterau llinell ofal ar gael yn ogystal.
Mae yna nifer o ddigwyddiadau blynyddol lle y mae pawb yn y pentref yn dod at ei gilydd. Y prif rai yw Diwrnod Chwaraeon Blynyddol a Gymkana Merlod. Caiff hwn ei drefnu gan nifer o wahanol fudiadau gan gynnwys pwyllgor y neuadd bentref, y clwb merlod a Ffermwyr Ifanc.
Mae Betws yn Rhos yn gymuned weithgar sydd yn cael ei lywio gan frwdfrydedd a dyfeisgarwch. Mae’r pentref yn ymdrechu yn barhaol i gynnig y cyfleusterau a’r gwasanaethau gorau i’w breswylwyr i gyd. |
|
Mae Clawddnewydd, sydd i’r de orllewin o Ruthun yn Sir Ddinbych, Gogledd Cymru, yn gymuned fywiog gydag ymdeimlad cryf o bwrpas. |
Pobl Hyn |
Mae Clawddnewydd, sydd i’r de orllewin o Ruthun yn Sir Ddinbych, Gogledd Cymru, yn gymuned fywiog gydag ymdeimlad cryf o bwrpas. Mae’n gymuned gyda phreswylwyr sydd yn berchen ar ystod eang o dalentau, sgiliau a phrofiadau sydd yn barod i roi o’u hamser a’u hegni i wneud y pentref yn lle gwell i fyw.
Mae dyddiadur o ddigwyddiadau yn cael ei gynhyrchu yn wirfoddol bob dau fis er mwyn gadael i bentrefwyr wybod am y gweithgareddau a’r digwyddiadau niferus sy’n cymryd lle trwy gydol y flwyddyn yng Nghlawddnewydd. Mae copi yn cael ei roi yn awtomatig i newydd ddyfodiaid ac maent yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau pentrefol.
Mae Clawddnewydd yn gymuned ofalgar iawn. Mae’r pentref yn gweithio yn galed i godi arian, nid yn unig er defnydd eu hunain, ond hefyd er budd achosion da eraill y tu allan i’r gymuned. Cesglir o leiaf £10,000 bob blwyddyn trwy yrfaoedd chwist a gynhelir yn y neuadd bentref, digon i redeg y neuadd bentref ac i gefnogi elusennau lleol. Mae gweithgareddau eraill a drefnwyd gan breswylwyr eraill yn codi arian i Ambiwlans Sant Ioan, Cymorth Cristnogol a Chanolfan Canser Gogledd Cymru.
Mae aelodau hyn y pentref yn weithgar iawn o fewn y gymuned. Maent yn cymryd rhan mewn gweithgareddau pentrefol fel boreau coffi a ffeiri grefft, ac maent yn aelodau gwerthfawr o nifer o bwyllgorau pentrefol. Mae aelodau ifancach y gymuned yn gwerthfawrogi gwybodaeth a phrofiad preswylwyr hyn Clawddnewydd ac yn croesawu eu help ar brosiectau pentrefol gan gynnwys y gwaith cadwraeth sydd yn digwydd yn y pentref. Mae nifer o bobl hyn yn gweithio yn wirfoddol y tu ôl i’r cownter yn y siop gymunedol ac mae rhai yn gwasanaethu ar bwyllgor y siop.
Er bod Clawddnewydd yn bentref ffyniannus sydd wedi cyflawni llawer iawn i’w breswylwyr i gyd, mae’r gymuned yn parhau i weithio yn galed i wneud pethau hyd yn oed yn well. Er enghraifft, mae yna brinder o dai fforddiadwy i bobl ifanc y pentref ar hyn o bryd. Mae’r mater yma wedi cael ei gymryd i fyny gan y cyngor cymuned a’r Awdurdod Gynllunio Lleol. |
|