Calor Village of the Year - Wales  
 
 

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

 

 
10th Anniversary
 
 
 
 
 
 
 
Calor
 

Enillwyr Blaenorol 2002

Cliciwch ar y dolennau isod os hoffech fwy o wybodaeth ar yr enillwyr:

Ystradowen

Rossett

St Florence

Raglan

Llanddarog

Aberhafesp

 

 

YSTRADOWEN

Daeth Ystradowen yn drydydd yn y gystadleuaeth sirol y llynedd ac eleni mae wedi canolbwyntio ei adnoddau ar bum categori cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn®: bywyd cymunedol, busnes, 2002.

Bywyd Cymunedol

Daeth Ystradowen yn drydydd yn y gystadleuaeth sirol y llynedd ac eleni mae wedi canolbwyntio ei adnoddau ar bum categori cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn®: bywyd cymunedol, busnes, pobl hyn, pobl ifanc a’r amgylchedd.  Mynychodd mwy na 60 o aelodau’r gymuned gyfarfod bentrefol i helpu cynllunio cyflwyniad eu hymgais, a bu llawer mwy o’r 475 o’r boblogaeth yn gysylltiedig gyda’r paratoadau terfynol. 
                
Dywedodd cyd-gordrwaig y cais, Mrs Rosemary Ives: “Mae gan Ystradowen hanes o fod yn gymuned flaenweithgar.  Er enghraifft, fe adeiladom y neuadd bentref ein hunain yn yr 80au, a thyfodd prosiect bach gan Sefydliad y Merched yn y 90’au i fod yn rhaglen gwerth £5,000 ar ôl derbyn grantiau, rhoddion ac ymdrechion i godi arian.  Gyda chefnogaeth ein pentrefwyr a chymorth gan bensaer lleol, fe lwyddom i adfywio ardal o’r pentref a chynorthwyodd y gwelliannau yma i ni ddod yn drydydd yng nghystadleuaeth Pentref Taclusaf  y llynedd.  Rhoddodd sylwadau'r beirniaid gyfarwyddyd ar welliannau ychwanegol, a’n helpodd i fod yn llwyddiannus eleni.  Mae’r pentref wedi dyblu yn ei faint dros y 6 mlynedd diwethaf ac mae aelodau’r gymuned – hen ac ifanc – yn chwarae eu rhan mewn edrych ar ei ôl.

 

ROSSETT

yn ôl i’r top

Mae Rossett yn bentref hynafol yn cynnwys pentrefannau Allington a Burton, wedi ei leoli ar gyrion Wrecsam yng Ngogledd Cymru.

Yr Amgylchedd

Mae Rossett yn bentref hynafol yn cynnwys pentrefannau Allington a Burton, wedi ei leoli ar gyrion Wrecsam yng Ngogledd Cymru.

Mae gan y pentref system gyfathrebu ragorol, yn cael ei weithredu trwy gylchgrawn pentrefol rheolaidd a elwir “Crossfire” ynghyd â gwefan helaeth sy’n darparu pentrefwyr gyda dyddiadur o ddigwyddiadau ac adroddiadau o’r gwahanol glybiau sydd yn gweithredu yn y pentref.  Mae’r rhain yn cynnwys: Clwb Ieuenctid Rossett, Clwb Ffensio Wrecsam, grŵp arlunio, Sefydliad y Merched, a grwpiau ieuenctid.

Mae busnesau yn chwarae rôl bwysig iawn ym mywyd y pentref, esiampl dda o hyn yw’r ganolfan arddio leol sydd yn darparu bylbiau bob blwyddyn ar gyfer diwrnod plannu bylbiau, pan fydd plant o’r cylch chwarae cyn ysgol, ynghyd ag eraill, yn plannu bylbiau yng ngerddi'r neuadd bentref.  Yn wir, mae busnesau yn ffynnu yn y pentref gyda sefydliad canolfan fasnachol newydd sydd wedi galluogi pedwar cwmni newydd i sefydlu eu hunain.

Mae’r pentref yn brysur iawn hefyd gyda gweithgareddau amgylcheddol.  Mae gan Rossett ei grŵp amgylcheddol ei hun, sef RECAP (Rossett Environmental Community Action Plan), a’i phrif amcan hwy yw hyrwyddo datblygiad cynaladwyol yn yr ardal.  Yn bwysicach na hyn, mae gwaith y grŵp wedi dod yn rhan o fywyd bob dydd yn y pentref trwy gyfrwng teithiau cerdded tywysiadwy, teithiau beic, plannu bylbiau a chreu map pentrefol.  Mae’r elw a wnaethpwyd o werthu copïau fframiedig o’r mapiau wedi ei ddefnyddio i ariannu prosiect amgylcheddol ar y cyd gydag ysgol gynradd y pentref.

 

ST FLORENCE

yn ôl i’r top

Mae St Florence wedi ei leoli o fewn dyffryn Afon Retic ynghanol cefn gwlad olygfaol Sir Benfro, mae’n bentref annibynnol sydd wedi llwyddo i sicrhau cymysgfa unigryw o draddodiad a newydd-deb.

Technoleg Gwybodaeth

Mae St Florence wedi ei leoli o fewn dyffryn Afon Retic ynghanol cefn gwlad olygfaol Sir Benfro, mae’n bentref annibynnol sydd wedi llwyddo i sicrhau cymysgfa unigryw o draddodiad a newydd-deb.

Y neuadd bentref yw prif ganolfan gweithgaredd y pentref ac yn fan cyfarfod i glybiau a gweithgareddau gan gynnwys chwaraeon, crefftau, cyfrifiaduron, gemau, a gweithgareddau perthnasol.  Mae’r neuadd bentref hefyd yn gartref i adnodd TG a ddatblygwyd yn ddiweddar, gyda naw cyfrifiadur a thri argraffydd a sicrhawyd gan gwmnïau lleol.

Mae’r adnodd TG yn y neuadd bentref yn agored i bentrefwyr o unrhyw oed, ynghyd a’r ystafell TG sydd wedi ei leoli o fewn ysgol St Florence.  Mae’r adnodd yma wedi arwain at sefydlu dosbarthiadau nos i oedolion ynghyd a chyfres o gyrsiau gyda theitlau fel ‘Cynhyrchu Newyddlen Gymunedol’ a ‘Chyfrifiaduron i’r Llai Brawychus’.

Fel mae teitl un o’r cyrsiau blaenorol yn awgrymu, mae gan y pentref newyddlen ei hun, sef y ‘St Florence Flyer’ sy’n sicrhau fod pentrefwyr yn cael gwybod am weithgareddau pentrefol a chael gwybodaeth gyffredinol.  Ond, yn y dyfodol agos mae’r pentref yn cynllunio i gynyddu ei gylchrediad gwybodaeth trwy gyfrwng gwefan sydd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. 

Fe fydd y wefan yn darparu gwybodaeth gyffredinol ar hanes y pentref, clybiau lleol a’r gwahanol fusnesau yn y pentref gan gynnwys gwestai, y ganolfan arddio a Fferm Caws St. Florence.

St Florence yw enillydd categori TG Cymru eleni yng nghystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor®.

 

RAGLAN

yn ôl i’r top

Mae Rhaglan, sydd wedi ei leoli ger Mynwy yng Ngwent, yn gymuned sy’n cynnig amrywiaeth eang o glybiau a gweithgareddau i’w breswylwyr ynghyd ag ystod drawiadol o wasanaethau sydd yn rhoi awyrgylch o hunan gynhaliaeth i’r pentref, 2002.

Busnes

Mae Rhaglan, sydd wedi ei leoli ger Mynwy yng Ngwent, yn gymuned sy’n cynnig amrywiaeth eang o glybiau a gweithgareddau i’w breswylwyr ynghyd ag ystod drawiadol o wasanaethau sydd yn rhoi awyrgylch o hunan gynhaliaeth i’r pentref.

Mae gweithgareddau cymunedol yn cynnwys grŵp ffermwyr ifanc, grŵp hanes, clybiau ieuenctid, dawnsio llinell a grŵp drama i’r anabl.  Cymerir gofal yn ogystal i gyfarfod ag anghenion unigolion sydd yn ei chael hi’n anodd i adael eu cartrefi: mae nyrsys cymunedol yn ymweld yn rheolaidd a phobl hyn yn y pentref ac mae’r groser yn ymweld yn wythnosol.

Mae busnesau yn chwarae rôl holl bwysig yn y pentref yn ogystal, gyda llawer yn cyfrannu gwobrwyon ariannol ar gyfer digwyddiadau lleol trwy gydol y flwyddyn.  Mae’r pentref yn ddibynnol ar amaethyddiaeth gyda busnesau yn cynnwys cyflenwyr offer amaethyddol a siopau cynnyrch fferm.  Yn ychwanegol i hyn, mae gan y pentref barc antur fechan sydd yn annog pobl leol i sefydlu busnesau bach.

Mae siop y pentref wrth galon y gymuned ac o ganlyniad mae’n cynnig ystod drawiadol o adnoddau ynghyd a bod yn fan cyfarfod i nifer o bobl leol.  Yn ychwanegol i hyn mae gan y pentref ei archfarchnad ei hun sydd yn cynnig gwasanaeth cario bwydydd i gartrefi nifer o breswylwyr Raglan.

LLANDDAROG

yn ôl i’r top

Mae Llanddarog, sydd yn bentref bychan wedi ei leoli ger Caerfyrddin yn Ne Cymru, yn bentref gydag ymdeimlad cryf iawn o ysbryd cymunedol, ffaith a gaiff ei adlewyrchu yn neilltuol gan ymdrechion sylweddol i godi arian.

Pobl Ifanc

Mae Llanddarog, sydd yn bentref bychan wedi ei leoli ger Caerfyrddin yn Ne Cymru, yn bentref gydag ymdeimlad cryf iawn o ysbryd cymunedol, ffaith a gaiff ei adlewyrchu yn neilltuol gan ymdrechion sylweddol i godi arian.

Er nad oes gan y pentref boblogaeth fawr (tua 800), mae pentrefwyr Llanddarog yn gallu manteisio ar nifer o weithgareddau a digwyddiadau.  Mae Sioe Llanddarog, er enghraifft, yn cynnwys ceffylau yn neidio dros gledrau a sioe gwn ynghyd a chyngerdd min nos.

Mae’r pentref yn codi arian trwy gyfrwng digwyddiadau fel hyn i gefnogi gwahanol fudiadau mewnol gan gynnwys yr ysgol a’r neuadd bentref ynghyd ag elusennau eraill sydd mewn angen.  Eleni, er enghraifft, cynhaliwyd noson i godi arian – casglwyd £3,500 er budd plant sy’n dioddef o ganlyniad i drychineb Chernobyl.

Mae digwyddiad arall, a gynhaliwyd i godi arian er budd ymchwil meningitis, yn arddangos y rôl bwysig y mae busnesau yn eu chwarae yn y gymuned.  Cafodd y babell, lle cynhaliwyd y digwyddiad, ei noddi gan ddyn busnes lleol, ac fe’i lleolwyd yng ngerddi gwesty lleol, gyda’r perchennog yn hapus i gydweithio gyda’r preswylwyr i baratoi bwyd ar gyfer y digwyddiad.

Mae adnoddau i’r ifanc a’r hen o fewn y pentref yn sicrhau fod anghenion pobl o bob oedran yn cael eu diwallu.  Mae’r ysgol yn trefnu clwb ieuenctid bywiog i’r ifanc a Chlwb Gofal, sef clwb ar ôl ysgol wirfoddol a sefydlwyd i ofalu am, a difyrru plant yr ysgol gynradd, sydd â rhieni yn gweithio.  Mae yna stad dai henoed i bobl hyn ynghyd a chymdeithas pensiynwyr sydd yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd ynghyd a threfnu gwibdeithiau dydd a gwyliau.

Llanddarog yw Pentref y Flwyddyn Calor Cymru 2002, ynghyd ag enillydd categori Pobl Ifanc yn y rhanbarth.

Sylwadau’r Beirniaid:

"Mae Llanddarog yn gymuned glos lle y mae grwpiau ag unigolion yn cefnogi ei gilydd – cymuned ofalgar ac elusennol gynhenid.”

 

ABERHAFESP

yn ôl i’r top

Mae Aberhafesp yn gymuned amaethyddol fychan yng nghefn gwlad Powys. Er gwaethaf y ffaith fod y gymuned wedi cael ei effeithio yn ddrwg gan Glwyf Traed a’r Gennau, mae’r pentref wedi ymateb yn gadarnhaol trwy gofleidio Technoleg Gwybodaeth.

Pobl Hyn

 

Mae Aberhafesp yn gymuned amaethyddol fychan yng nghefn gwlad Powys.  Er gwaethaf y ffaith fod y gymuned wedi cael ei effeithio yn ddrwg gan Glwyf Traed a’r Gennau, mae’r pentref wedi ymateb yn gadarnhaol trwy gofleidio Technoleg Gwybodaeth.

Creuwiyd canolfan TG gymunedol yng nghalon y gymuned sef yr ysgol bentrefol.  Mae’r adnodd ar agor i holl aelodau’r gymuned o’r plant ysgol eu hunain hyd at aelodau’r Clwb Cinio i’r rhai dros 65 mlwydd oed, ynghyd a nifer o grwpiau a chymdeithasau.  Mae’r gymuned wedi cydweithio gyda’r coleg lleol i ddarparu cyrsiau NVQ yn y rhyngrwyd ag e-bost.

Mae gan fusnesau lleol, yn arbennig y rhai hynny gyda chysylltiadau amaethyddol, y cyfle i ddefnyddio technoleg gwybodaeth i hyrwyddo eu cynhyrchion a’u gwasanaethau a helpu gyda phrosiectau tîm i arallgyfeirio.  Yn ystod y cyfnod beirniadu, roedd y pentref yn cynllunio gwefan cymunedol, gan ddarparu tudalennau gwybodaeth ar bob grŵp lleol, busnes a’r ysgol, ynghyd a thudalen gwirfoddolwyr i’r rhai hynny sy’n cynnig eu gwasanaethau fel trafnidiaeth ac ymweliadau cartref*.

 

Aberhafesp oedd enillydd categori TG cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor Cymru 2001.

Sylwadau’r Beirniaid:

"Mae Aberhafesp yn benderfynol i edrych ymlaen a gwella cyfathrebiad i fusnesau lleol a’r gymuned ehangach trwy ddefnyddio technoleg”.

 

* Mae gan y pentref wefan dros dro ar hyn o bryd ac mae’n paratoi deunydd ar gyfer y safle terfynol.

 

 

 

 

Company Information | Terms and Conditions | Acceptable Use Policy