LLWYDDIANT I LANSANNAN YNG NGHYSTADLEUAETH PENTRE’R FLWYDDYN CALOR® YNG NGHYMRU
Cyhoeddwyd canlyniadau terfynol cystadleuaeth Pentre’r Flwyddyn Calor®, Cymru mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yng Nghaerdydd Dydd Mercher 28ain Medi.
Roedd cyfanswm o wyth o bentrefi, pedwar o Ogledd Cymru a phedwar o’r De, wedi cael eu rhoi ar restr fer am wobrwyau yn y gystadleuaeth sydd yn cael ei threfnu a’i hariannu gan Calor – prif gyflenwr LPG (nwy petrolewm hylifedig) y Deyrnas Unedol. Mae’r gystadleuaeth yn asesu cymunedau ar chwe agwedd o fywyd pentref, gyda chategorïau ar gyfer Bywyd Cymunedol, Busnes, Pobl Ifanc, Pobl Hŷn, yr Amgylchedd, ac fel categori sy’n cael ei feirniadu ar wahân, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh).
Enillodd bentref Llansannan yn Sir Conwy ddwy wobr ranbarthol yn y categorïau Pobl Ifanc a’r Amgylchedd. Cyflwynwyd cyfanswm o £1,000 o wobrau a thystysgrifau wedi’u fframio i gydnabod llwyddiant y gymuned i gynrychiolwyr y pentref.
Cyflwynwyd gwobrau Llansannan iddynt gan reolwr gyfarwyddwr Calor, Howard Kerr ar Syr Roger Jones OBE, Cadeirydd Awdurdod Datblygu Cymru. Yn bresennol hefyd yn y cyfarfod gwobrwyo roedd cynrychiolwyr o’r holl bentrefi a oeddynt ar restr fer y gystadleuaeth yn ogystal ag Aelodau Cynulliad, cynrychiolwyr sefydliadau anllywodraethol Cymreig a phobl leol flaenllaw. Dywedodd Howard Kerr: “2005 yw’r flwyddyn gyntaf i ni gynnal cystadleuaeth ar gyfer cymunedau Cymru yn unig. Lansiwyd y gystadleuaeth ddwyieithog hon gyda’r bwriad o annog mwy o bentrefi i gymryd rhan ac elwa o gystadlu mewn rhywbeth y gellid ei ddisgrifio orau fel “prawf ffitrwydd i gymunedau”, a hynny gyda’r fantais bellach, efallai, o rannu yn y gwobrwyau o £8,500 sydd ar gael! Gyda chyfanswm o 79 o geisiadau, rydym yn hynod falch o’r ymateb a gawsom gan bentrefi Cymru. Amlygwyd rhai cymunedau rhagorol a hoffwn longyfarch pob pentref a gymerodd ran, yn ogystal â diolch iddynt, pa un ai a gawsant wobr ai peidio.”
Mae beirniaid y gystadleuaeth yn edrych am gymunedau cytbwys, gweithgar, gofalgar sydd , waeth beth fo’u maint, yn gwneud y gorau o’u cyfleoedd lleol i gynnal a gwella ansawdd bywyd i’r holl drigolion. Roedd y beirniaid yn credu fod Llansannan yn bentref trawiadol gyda chymuned agos iawn. Mae llawer o weithgareddau at gyfer pobl ifanc yn y pentref ac ymwybyddiaeth o’r angen i annog pobl ifanc i aros yn y pentref wedi iddynt ddod i oed. Yng Nghategori’r Amgylchedd, mae gan Lansannan gyfleusterau ailgylchu da ar gyfer papur, plastig a gwydr. Mae’r pentref hefyd yn gweithio’n galed i godi ymwybyddiaeth y trigolion o’r amgylchedd, yn enwedig aelodau iaur gymuned.
Ychwanegodd Howard Kerr: “Rwyf yn gobeithio y bydd llwyddiant Llansannan yn annog hyd yn oed mwy o bentrefi i gymryd rhan yn y gystadleuaeth y flwyddyn nesaf. Mae cystadlu yn rhoi cyfle i bentrefi ddathlu yr hyn sydd ganddynt ac i ddweud “da iawn chi” wrth y trigolion sy’n gwneud i brosiectau cymunedol ddigwydd. Rydym yn gwybod bod cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn gallu bod yn brofiad gwych i bentrefi ac mae Calor eisiau i gymaint o gymunedau â phosibl elwa o weithio gyda’i gilydd tuag at nod cyffredin.”
Am fwy o wybodaeth, cyfeiriwch at wefan ddwyieithog y gystadleuaeth ar www.calorvillageoftheyear.org neu ffoniwch 01962 629768.
Mwy o wybodaeth i’r wasg gan: Emma Flinn, Flent PR Ltd
ffôn: 01223 845781 (uniongyrchol) / 0161 817 4200 (prif swyddfa)
e-bost: e.flinn@amaze.com
Back
|