Calor Village of the Year - Wales  
 
 

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

 

 
10th Anniversary
 
 
 
 
 
 
 
Calor
 

Archif Datganiadau

Back

CYHOEDDI PENTREF GORAU CYMRU

Cyhoeddwyd canlyniadau terfynol cystadleuaeth gyntaf Pentref y Flwyddyn Calor® yng Nghymru mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yng Nghaerdydd Dydd Mercher 28ain Medi.

Roedd cyfanswm o wyth o bentrefi, pedwar o Ogledd Cymru a phedwar o’r De, wedi cael eu rhoi ar restr fer am wobrwyau yn y gystadleuaeth sydd yn cael ei threfnu a’i hariannu gan Calor – prif gyflenwr LPG (nwy petrolewm hylifedig) y Deyrnas Unedol. Mae’r gystadleuaeth yn asesu cymunedau ar chwe agwedd o fywyd pentref, gyda chategorïau ar gyfer Bywyd Cymunedol, Busnes, Pobl Ifanc, Pobl Hŷn, yr Amgylchedd, ac fel categori sy’n cael ei feirniadu ar wahân, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh).

Dim ond o drwch blewyn y methodd pentref Ffarmers yn Sir Gaerfyrddin â chipio teitl Pentref y Flwyddyn Calor® yng Nghymru 2005. Roedd y pentref, a gyhoeddwyd yn enillydd rhanbarthol De Cymru yn ôl yng Ngorffennaf gan Dywysog Cymru, yn cystadlu yn erbyn Clawddnewydd yn Sir Ddinbych am y teitl. Mewn rownd derfynol agos iawn, enillodd Ffarmers y wobr am y categori Bywyd Cymunedol, ond Clawddnewydd a gafodd y clod mwyaf a’r brif wobr o £1,500. Fodd bynnag, cafodd Ffarmers gyfanswm o £1,000 am ennill y teitl rhanbarthol ac un wobr categori.

Cyflwynwyd gwobrau Ffarmers iddynt gan reolwr gyfarwyddwr Calor, Howard Kerr ar Syr Roger Jones OBE, Cadeirydd Awdurdod Datblygu Cymru. Yn bresennol hefyd yn y cyfarfod gwobrwyo roedd cynrychiolwyr o’r holl bentrefi a oeddynt ar restr fer y gystadleuaeth, yn ogystal ag Aelodau Cynulliad, cynrychiolwyr sefydliadau anllywodraethol Cymreig a phobl leol flaenllaw. Dywedodd Howard Kerr: “2005 yw’r flwyddyn gyntaf i ni gynnal cystadleuaeth ar gyfer cymunedau Cymru yn unig. Lansiwyd y gystadleuaeth ddwyieithog hon gyda’r bwriad o annog mwy o bentrefi i gymryd rhan ac elwa o gystadlu mewn rhywbeth y gellid ei ddisgrifio orau fel “prawf ffitrwydd i gymunedau”, a hynny gyda’r fantais bellach, efallai, o rannu yn y gwobrwyau o £8,500 sydd ar gael! Gyda chyfanswm o 79 o geisiadau, rydym yn hynod falch o’r ymateb a gawsom gan bentrefi Cymru. Amlygwyd rhai cymunedau rhagorol a hoffwn longyfarch pob pentref a gymerodd ran, yn ogystal â diolch iddynt, pa un ai a gawsant wobr ai peidio.”

Mae beirniaid y gystadleuaeth yn edrych am gymunedau cytbwys, gweithgar, gofalgar sydd , waeth beth fo’u maint, yn gwneud y gorau o’u cyfleoedd lleol i gynnal a gwella ansawdd bywyd i’r holl drigolion. Dywedodd y beirniaid am Ffarmers: “O ystyried mai cymuned fechan, wasgaredig yw Ffarmers, mae’r ardal wedi datblygu dulliau unigryw o ddelio â’r bygythiadau i’w ffyniant. Roedd y posibilrwydd o golli’r Drovers Arms fel y man cyfarfod lleol ar gyfer gweithgareddau cymunedol wedi ennyn digon o ysbryd yn y gymuned leol i brynu’r dafarn a’i rhedeg fel menter gymunedol. Roedd hyn yn syniad gwych ac yn enghraifft ragorol o feddwl creadigol a oedd yn elwa’r holl gymuned. Yn yr un modd, pan oedd bygythiad i’r ysgol leol, aeth trigolion Ffarmers i’r gad unwaith eto, ac arbedwyd yr ysgol, Heb os nac oni bai, mae bygythiadau o’r fath wedi arwain at ymdrechion blaengar eithriadol gan bobl Ffarmers, sydd yn amlwg yn ffurfio cymuned glos sydd yn edrych ar ôl asedau’r pentref i sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau bywyd yno.”

Ychwanegodd Howard Kerr: “Rwyf yn gobeithio y bydd llwyddiant Ffarmers yn annog hyd yn oed mwy o bentrefi i gymryd rhan yn y gystadleuaeth y flwyddyn nesaf. Mae cystadlu yn rhoi cyfle i bentrefi ddathlur hyn sydd ganddynt ac i ddweud “da iawn chi” wrth y trigolion sy’n gwneud i brosiectau cymunedol ddigwydd. Rydym yn gwybod bod cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn gallu bod yn brofiad gwych i bentrefi ac mae Calor eisiau i gymaint o gymunedau â phosibl elwa o weithio gyda’i gilydd tuag at nod cyffredin.”

Am fwy o wybodaeth, cyfeiriwch at wefan ddwyieithog y gystadleuaeth ar www.calorvillageoftheyear.org neu ffoniwch 01962 629768.

Mwy o wybodaeth i’r wasg gan: Emma Flinn, Flent PR Ltd
ffôn: 01223 845781 (uniongyrchol) / 0161 817 4200 (prif swyddfa)
e-bost: e.flinn@amaze.com

Back

 

 

 

 

Company Information | Terms and Conditions | Acceptable Use Policy