Calor Village of the Year - Wales  
 
 

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

 

 
10th Anniversary
 
 
 
 
 
 
 
Calor
 

Archif Datganiadau

Back

CYHOEDDI PENTREF GORAU CYMRU

Cyhoeddwyd canlyniadau terfynol cystadleuaeth gyntaf Pentref y Flwyddyn Calor® yng Nghymru mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yng Nghaerdydd Dydd Mercher 28ain Medi.

Roedd cyfanswm o wyth o bentrefi, pedwar o Ogledd Cymru a phedwar o’r De, wedi cael eu rhoi ar restr fer am wobrwyau yn y gystadleuaeth sydd yn cael ei threfnu a’i hariannu gan Calor – prif gyflenwr LPG (nwy petrolewm hylifedig) y Deyrnas Unedol. Mae’r gystadleuaeth yn asesu cymunedau ar chwe agwedd o fywyd pentref, gyda chategorïau ar gyfer Bywyd Cymunedol, Busnes, Pobl Ifanc, Pobl Hŷn, yr Amgylchedd, ac fel categori sy’n cael ei feirniadu ar wahân, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh).

Mae pentref Clawddnewydd yn Sir Ddinbych wedi ennill y teitl clodfawr o Bentref y Flwyddyn Calor® yng Nghymru 2005. Roedd y pentref, a gyhoeddwyd yn enillydd rhanbarthol Gogledd Cymru yn ôl yng Ngorffennaf gan Dywysog Cymru, yn cystadlu yn erbyn Ffarmers yn Sir Gaerfyrddin am y teitl. Mewn rownd derfynol agos iawn, cafodd Clawddnewydd y gwobrau categori am Fywyd Cymunedol a Busnes cyn ennill y clod mwyaf a’r brif wobr o £1,500, ar ben y wobr o £1,500 am ennill y teitl rhanbarthol a’r ddwy wobr categori.

Cyflwynwyd gwobrau Clawddnewydd iddynt gan reolwr gyfarwyddwr Calor, Howard Kerr ar Syr Roger Jones OBE, Cadeirydd Awdurdod Datblygu Cymru. Yn bresennol hefyd yn y cyfarfod gwobrwyo roedd cynrychiolwyr o’r holl bentrefi a oeddynt ar restr fer y gystadleuaeth, yn ogystal ag Aelodau Cynulliad, cynrychiolwyr sefydliadau anllywodraethol Cymreig a phobl leol flaenllaw. Dywedodd Howard Kerr: “2005 yw’r flwyddyn gyntaf i ni gynnal cystadleuaeth ar gyfer cymunedau Cymru yn unig. Lansiwyd y gystadleuaeth ddwyieithog hon gyda’r bwriad o annog mwy o bentrefi i gymryd rhan ac elwa o gystadlu mewn rhywbeth y gellid ei ddisgrifio orau fel “prawf ffitrwydd i gymunedau”, a hynny gyda’r fantais bellach, efallai, o rannu yn y gwobrwyau o £8,500 sydd ar gael! Gyda chyfanswm o 79 o geisiadau, rydym yn hynod falch o’r ymateb a gawsom gan bentrefi Cymru. Amlygwyd rhai cymunedau rhagorol a hoffwn longyfarch pob pentref a gymerodd ran, yn ogystal â diolch iddynt, p’run ai a gawsant wobr ai peidio.”

Mae beirniaid y gystadleuaeth yn edrych am gymunedau cytbwys, gweithgar, gofalgar sydd, waeth beth fo’u maint, yn gwneud y gorau o’u cyfleoedd lleol i gynnal a gwella ansawdd bywyd i’r holl drigolion. Dywedodd y beirniaid am Glawddnewydd: “Mae ansawdd bywyd yn y pentref wedi gwella yn sylweddol dros y 10 mlynedd diwethaf ar ôl y penderfyniad i ddechrau ar brosiect uchelgeisiol Y Ganolfan. Mae cyfleusterau cynaliadwy, o’r radd flaenaf, yn awr ar gael - hyd yn oed i aelodau mwy ynysig y gymuned. Mae pobl ifanc yn cael eu hannog i ddychwelyd i’r pentref yn awr, gan greu cydbwysedd oedran iach i gefnogi a chynnal y pentref fel cymuned lwyddiannus a ffyniannus, yn falch o’r hyn a gyflawnwyd ond yn parhau i fod yn ymwybodol o anghenion ei phobl.”

Ychwanegodd Howard Kerr: “Rwyf yn gobeithio y bydd llwyddiant Clawddnewydd yn annog hyd yn oed mwy o bentrefi i gymryd rhan yn y gystadleuaeth y flwyddyn nesaf. Mae cystadlu yn rhoi cyfle i bentrefi ddathlur hyn sydd ganddynt ac i ddweud “da iawn chi” wrth y trigolion sy’n gwneud i brosiectau cymunedol ddigwydd. Rydym yn gwybod bod cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn gallu bod yn brofiad gwych i bentrefi ac mae Calor eisiau i gymaint o gymunedau â phosibl elwa o weithio gyda’i gilydd tuag at nod cyffredin.”

Am fwy o wybodaeth, cyfeiriwch at wefan ddwyieithog y gystadleuaeth ar www.calorvillageoftheyear.org neu ffoniwch 01962 629768.

Mwy o wybodaeth i’r wasg gan: Emma Flinn, Flent PR Ltd
ffôn: 01223 845781 (uniongyrchol) / 0161 817 4200 (prif swyddfa)
e-bost: e.flinn@amaze.com

Back

 

 

 

 

Company Information | Terms and Conditions | Acceptable Use Policy