Calor Village of the Year - Wales  
 
 

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

 

 
10th Anniversary
 
 
 
 
 
 
 
Calor
 

Archif Datganiadau

YMWELYDD BRENHINOL YN CYHOEDDI ENILLWYR PENTRE’R FLWYDDYN CALOR®

Mae Tywysog Cymru wedi cyhoeddi yr enillwyr rhanbarthol yng nghystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor Cymru® 2005.

Cyhoeddwyd yr enwau ym mhentref Pendeulwyn Dydd Mercher 14eg Gorffennaf lle’r oedd y Tywysog wedi treulio amser yn mynd o amgylch yr ardal gydag Iarlles Cernyw. Pendeulwyn oedd yr enillydd yng nghategori yr Amgylchedd yng nghystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® 2004. Eleni, lansiwyd cystadleuaeth newydd yn benodol i gymunedau Cymru ar 1af Mawrth. Daeth rownd gyntaf cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor Cymru® 2005 i ben ar 13eg Gorffennaf pan ddewisodd y beirniaid yr enillwyr yng Ngogledd a De Cymru.

Datgelodd Tywysog Cymru mai pentref Clawddnewydd yn Dinbych yw enillydd Gogledd Cymru, a phentref Ffarmers yn Caerfyrddin yw’r enillydd yn y De. Bydd y ddau bentref yn awr yn mynd ymlaen i gam nesaf y gystadleuaeth ac yn wynebu ymweliad pellach gan feirniaid y rownd derfynol yn gynnar ym mis Medi, pan benderfynir pa un o’r ddwy gymuned fydd yn cael y fraint o ennill y teitl Pentref y Flwyddyn Calor Cymru® 2005. Bydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd ar 28ain Medi, pan ddatgelir y 12 enillydd categori rhanbarthol hefyd.

Mae’r gystadleuaeth, sydd yn beirniadu chwech agwedd o fywyd pentrefi cefn gwlad, sef yn y categorïau Bywyd Cymunedol, Busnes, Pobl Ifanc, Pobl Hŷn, yr Amgylchedd a Thechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, wedi denu cyfanswm o 79 cais gan bentrefi drwy Gymru gyfan yn y flwyddyn gyntaf hon. Mae cyfanswm o £8,500 o wobrau ariannol ar gael i’r pentrefi llwyddiannus yn y gystadleuaeth. Fel enillwyr rhanbarthol mae Clawddnewydd a Ffarmers yn derbyn £500 yr un, gyda chyfle I ennill £1,500 pellach fel yr enillydd terfynol a gwobrau ariannol ychwanegol am unrhyw wobrau ategory a enillir.

Roedd yr ymweliad â Phendeulwyn yn cynnwys galw yn yr ysgol leol ac eglwys y pentref cyn gorffen gyda dadorchuddio plac ar faes y pentref i goffau yr ymweliad Brenhinol a llwyddiant Pendeulwyn yn ennill categori yr Amgylchedd, Cymru, yng nghystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® 2004.

Dywedodd Suzanne Weir, rheolwr cyfathrebu Calor: “Rydym yn falch iawn bod Tywysog Cymru ac Iarlles Cernyw wedi treulio cymaint o amser ym Mhendeulwyn yn cyfarfod aelodau o’r gymuned a chael blas ar y nodweddion amgylcheddol a enillodd y wobr genedlaethol hon i’r pentref yng nghystadleuaeth Pentre’r Flwyddyn Calor® 2004.

“Roedd hefyd yn anrhydedd mawr i gystadleuaeth newydd Cymru bod Tywysog Cymru wedi cyhoeddi’r enillwyr rhanbarthol. Mae’r Tywysog wedi dangos diddordeb cyffredinol yn y gystadleuaeth hon sydd yn hyrwyddo ac yn dathlu bwyd pentrefol ers rhai blynyddoedd ac mae’n benodol wedi cefnogi’r gystadleuaeth newydd hon. Rwyf yn gobeithio y bydd ei gefnogaeth yn annog mwy o gymunedau fyth i gymryd rhan y flwyddyn nesaf, er mwyn i’r gystadleuaeth yng Nghymru fynd o nerth i nerth.”

Am wybodaeth bellach am gystadleuaeth Pentre’r Flwyddyn Calor Cymru® , cysylltwch â Brian Challis ar 01962 629768, e-bost info@calorvillageoftheyear.org. Gallwch weld y manylion hefyd ar y wefan ddwyieithog newydd ar www.calorvillageoftheyear.org

Gwybodaeth bellach i’r wasg gan: Emma Flinn, Flent PR Ltd
ffôn: 01223 845781 (uniongyrchol) 0161 817 4200 (prif swyddfa)
e-bost: e.flinn@amaze.com

Back

 

 

 

 

Company Information | Terms and Conditions | Acceptable Use Policy