Calor Village of the Year - Wales  
 
 

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

 

 
10th Anniversary
 
 
 
 
 
 
 
Calor
 

Archif Datganiadau

Back

ENILLYDD PENTRE’R FLWYDDYN CALOR CYMRU® YN CROESAWU YMWELWYR BRENHINOL

Mae pentref Pendeulwyn ym Mro Morgannwg, enillydd Cymru yn y categori Amgylchedd yng nghystadleuaeth Pentre’r Flwyddyn Calor Cymru® y llynedd, yn croesawu Tywysog Cymru ac Iarlles Cernyw am daith o amgylch eu cymuned Dydd Iau, 14eg Gorffennaf. Bydd y daith yn cynnwys ymweliad â’r ysgol leol ac eglwys y pentref, cyn gorffen gyda dadorchuddio plac i goffau yr ymweliad Brenhinol a llwyddiant Pendeulwyn yng nghystadleuaeth Pentre’r Flwyddyn Calor Cymru® 2004.

Yn ystod yr ymweliad, bydd Tywysog Cymru hefyd yn cyhoeddi yr enillwyr rhanbarthol yng nghystadleuaeth Pentre’r Flwyddyn Calor Cymru® 2005. Dechreuwyd y gystadleuaeth eleni yn benodol i Gymru ac fe’i lansiwyd ar 1af Mawrth. Mae rownd gyntaf y gystadleuaeth yn digwydd ar hyn o bryd i ddod o hyd i’r enillwyr yng Ngogledd a De Cymru, yn ogystal â’r enillwyr categori yn y ddau ranbarth. Bydd yr enillwyr ar gyfer y Gogledd a’r De, a gyhoeddir gan y Tywysog ar 14eg Gorffennaf, yn mynd ymlaen i gam nesaf y gystadleuaeth ac yn wynebu beirniaid y rownd derfynol ddechrau mis Medi, pan benderfynir pa un o’r ddwy gymuned fydd yn cael y fraint o ennill y teitl Pentre’r Flwyddyn Calor Cymru® 2005. Bydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd ar 28ain Medi, pan ddatgelir y 12 enillydd categori rhanbarthol hefyd.

Mae’r gystadleuaeth, sydd yn beirniadu chwech agwedd o fywyd pentrefi cefn gwlad, sef yn y categorïau Bywyd Cymunedol, Busnes, Pobl Ifanc, Pobl Hŷn, yr Amgylchedd a Thechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, wedi denu cyfanswm o 79 cais gan bentrefi drwy Gymru gyfan yn y flwyddyn gyntaf hon. Mae cyfanswm o £8,500 o wobrau ariannol ar gael i’r pentrefi llwyddiannus yn y gystadleuaeth. Bydd y pentrefi llwyddiannus yn Ne a Gogledd Cymru yn derbyn £500 yr un, gyda chyfle i ennill £1,500 pellach fel yr enillydd terfynol yn y gystadleuaeth a gwobrau ariannol ychwanegol am unrhyw wobrau categori a enillwyd.

Y pentrefi ar y rhestr fer yn y Gogledd ar gyfer y wobr ranbarthol a’r categorïau yw Brynteg, Wrecsam; Llansannan, Conwy; Clawddnewydd, Dinbych a Chaeathro, Gwynedd. Y pentrefi ar y rhestr fer yn y De yw Llanychâr, Penfro; Llandudoch, Penfro; Ffarmers, Caerfyrddin a Llanfair Llythynwg, Powys.

Dywedodd Suzanne Weir, rheolwr cyfathrebu Calor: “Rydym yn falch iawn bod Tywysog Cymru ac Iarlles Cernyw yn treulio amser ym Mhendeulwyn yn cyfarfod aelodau o’r gymuned a chael blas ar y nodweddion amgylcheddol a enillodd y wobr genedlaethol hon i’r pentref yng nghystadleuaeth Pentre’r Flwyddyn Calor Cymru® 2004.

“Mae’n anrhydedd mawr i gystadleuaeth newydd Cymru i gael Tywysog Cymru yn cyhoeddi’r enillwyr rhanbarthol. Mae’r Tywysog wedi dangos diddordeb cyffredinol yn y gystadleuaeth hon sydd yn hyrwyddo ac yn dathlu bwyd pentrefol ers rhai blynyddoedd ac mae’n benodol wedi cefnogi’r gystadleuaeth newydd hon. Rwyf yn gobeithio y bydd ei gefnogaeth yn annog mwy o gymunedau fyth i gymryd rhan y flwyddyn nesaf, er mwyn i’r gystadleuaeth yng Nghymru fynd o nerth i nerth.”

Am wybodaeth bellach am gystadleuaeth Pentre’r Flwyddyn Calor Cymru® , cysylltwch â Brian Challis ar 01962 629768, ebost info@calorvillageoftheyear.org. Gallwch weld y manylion hefyd ar y wefan ddwyieithog newydd ar www.calorvillageoftheyear.org

Gwybodaeth bellach i’r wasg gan: Emma Flinn, Flent PR Ltd
ffôn: 01223 845781 (uniongyrchol) 0161 817 4200 (prif swyddfa)
ebost: e.flinn@amaze.com

Back

 

 

 

 

Company Information | Terms and Conditions | Acceptable Use Policy