Calor Village of the Year - Wales  
 
 

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

 

 
10th Anniversary
 
 
 
 
 
 
 
Calor
 

Archif Datganiadau

Back

GWEFAN NEWYDD I BENTREFI CYMREIG

Gall pentrefi sydd am wybodaeth ychwanegol ar Gystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru, a lansiwyd yn ddiweddar, gyfeirio yn awr at wefan cystadleuaeth dwy-ieithog newydd sef www.calorvillageoftheyear.org

Cafodd y wefan ei gynllunio er mwyn darparu ymwelwyr gyda’r wybodaeth hanfodol y byddant eu hangen pan yn ystyried rhoi cais at ei gilydd er mwyn ymgeisio yn y gystadleuaeth. Mae’r wefan wedi ei osod allan yn glir ac yn gryno gyda gwybodaeth am y gystadleuaeth wedi ei rannu i fyny i nifer o wahanol adrannau. Fe fydd y safle yn cael ei ddiweddaru gyda manylion am y datblygiadau diweddaraf gan gynnwys manylion ar rai o’r pentrefi sydd yn y ras am wobrau eleni.

Y dyddiad cau swyddogol ar gyfer ceisiadau i Gystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru 2005 yw dydd Mawrth, Mai 31ain. Ond, os ydych wedi cofrestru eich diddordeb cyn y dyddiad yma, mae’n bosibl cyflwyno cais yn ddiweddarach. Felly, os ydych yn awyddus i’ch cymuned gyflwyno cais, mae yna dal amser i wneud hynny yn awr. Gall pentrefi gystadlu mewn cyn lleied a dau gategori a dal bod a siawns o ennill gwobr. Ffurflenni cais ar gael gan Brian Challis, Calor ar 01962 629768, e-bost info@calorvillageoftheyear.org

Mwy o wybodaeth i’r wasg ar gael gan: Emma Flinn, Flent PR Cyf
ffôn: 01223 845781 (uniongyrchol) / 0161 817 4200 (prif swyddfa)
ebost: e.flinn@amaze.com

Back

 

 

 

 

Company Information | Terms and Conditions | Acceptable Use Policy