Calor Village of the Year - Wales  
 
 

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

 

 
10th Anniversary
 
 
 
 
 
 
 
Calor
 

Archif Datganiadau

Back

Y CHWILIO YN PARHAU AM BENTREF GORAU CYMRU

Dechreuodd y chwilio am bentref gorau Cymru ar Fawrth 1af gyda lansiad cystadleuaeth Pentref Y Flwyddyn Calor® Cymru. Er bod yr ymateb gan bentrefi wedi bod yn gadarnhaol hyd yma, mae trefnwyr y gystadleuaeth wedi penderfynnu ymestyn y dyddiau cau o Ebrill 30ain i ddydd Mawrth Mai 31ain, a hynny er mwyn rhoi siawns i hyd yn oed yn fwy o bentrefi gael elwa o gael cymryd rhan yn y gystadleuaeth.

Fe fydd pentrefi yn cael cyfle i gystadlu am wobrau o £8,500, ac yn cael cymryd rhan mewn rhywbeth tebyg i brawf ffitrwydd cymunedol. Mae lansio y gystadleuaeth ddwyieithog newydd cenedlaethol yma yn galluogi pentrefi ledled Cymru i gystadlu am y tro cyntaf erioed- er mwyn helpu cymunedau i sylweddoli beth y meant wedi ei gyflawni yn barod; rhoi gweledigaeth iddynt ir dyfodol; a darparu cymunedau gyda chyfle i ddathlu ynghyd â sicrahu cydanyddiaeth a gwobr am eu gorchestion.

Mae yna chwech categori yn y gystadleuaeth, sef Bywyd Cymunedol, Pobl Ifanc, Busnes, Pobl Hyn; yr Amgylchedd a Thechnoleg Gwybodaeth. Nid oes raid i bentrefi ymgeisio ymhob categori i fod a siawns gryf o ennill gwobr. Gall pentrefi ddewis cystadlu mewn cyn lleied neu chyn gymaint or chwech categorï ac y maent yn dymuno. Felly, os oes yna lawer yn digwydd i bobl ifanc yn y pentref, neu os yw busnes yn ffynnu yn y pentref, neu os ywr amgylchedd yn arbennig o bwysig ir gymuned, yr ateb yw - rhowch gynnig ar y gystadleuaeth. Mae gan bentrefi, sydd ond yn dewis cystadlu mewn dau neu dri category, gystal siawns o ennill gwobr ar rhai a ddewisiodd gystadlu ymhob categori.

Dywedodd rheolwr cyfathrebu Calor, Suzanne Weir. "Mae yna gannoedd o bentrefi ledled Cymru sydd heb gael y cyfle i gystadlu yng Ngystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® yn y gorffennol, a hynny am nad oedd digwyddiad sirol yn cael ei drefnu yn eu hardal. Ond, gyda lansiad cystadleuaeth i Gymru fe fydd pob pentref yn y wlad yn gallu cymryd rhan a elwa o weithio gydau gilydd at nod gyffredin. Y prif amcan yw cael gyn gymaint o bentrefi a phosib igymryd rhan ac rwyn annog cymunedau i weithredu yn awr fel nad ydynt yn methu allan ar y cyfle i gyflwynno cais. Ni allaf bwysleisio digon fod cystadlu ym Mhentref y Flwyddyn® wedi bod yn weithgaredd cadarnhaol a llesol i gannoedd o bentrefi ledled Cymru a Lloegr yn y gorffennol."

Mae cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor Cymru® yn agored i bob cymuned wledig ledled Cymru sydd â phoblogaeth o 5,000 neu lai. Maer beirniaid yn edrych am: "Gymunedau gofalgar, cytbwys, rhyngweithiol sydd, beth bynnag eu maint, wedi gwneud y gorau o gyfleon lleol i gynnal a gwella safon byw eu holl breswylwyr." Dylai pentrefi gyda diddordeb gysylltu â Brian Challis ar 01962 629768, ebost info@calorvillageoftheyear.org, neu ymwelwch â www.villageoftheyear.org cyn gynted â phosib i gofrestru eich diddordeb. Dylai pentrefi sydd am ymgeisio yn y Gymraeg ddarparu cyfieithiad Saesneg yn ogystal.

Back

 

 

 

 

Company Information | Terms and Conditions | Acceptable Use Policy