|
Back
Mawrth 2006
Amser Yn Rhedeg Allan I Bentrefi Cymru!
Gyda’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i ail gystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru yn nesáu, atgoffir pentrefi ar draws Cymru y dylent gyflwyno eu ceisiadau erbyn Ebrill 30ain.
Clawddnewydd yn Sir Ddinbych oedd enillydd y llynedd ac mae cystadleuaeth ddwyieithog 2006 yn agored i bob pentref gyda phoblogaeth o 5,000 neu lai ac fe’i lluniwyd i ddod ag aelodau cymunedau ynghyd i ddathlu eu hamrywiaeth a’u llwyddiannau.
Gyda Chymru yn meddu amrywiaeth eang o bentrefi yn nhermau maint, poblogaeth a diwylliant, mae’r trefnwyr wrth eu bodd gyda nifer y ceisiadau hyd yn hyn, ond maent yn awyddus i dderbyn mwy o geisiadau fyth.
Er mwyn adlewyrchu amrywiaeth pentrefi Cymru, mae chwe chategori gwahanol i roi cynnig arnynt; Bywyd Cymunedol, Busnes, Pobl Ifanc, Pobl Hŷn, yr Amgylchedd a Thechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu. Mae’r trefnwyr eisiau cydnabod rhagoriaeth drwy wobrwyo cymunedau blaengar sydd wedi gwneud y gorau o’u cyfleoedd i wella ansawdd bywyd eu trigolion.
Mae gwobrau ariannol ar gael i enillwyr categorïau yng Ngogledd a De Cymru yn ogystal ag enillydd rhanbarthol i’r De a’r Gogledd. Bydd enillydd Cymru gyfan yn cael ei ddewis allan o’r ddau hynny. Er mwyn i bentref gael ei ystyried ar gyfer y teitl Pentref y Flwyddyn Calor ® Cymru 2006, bydd rhaid iddo roi cynnig ar y chwe chategori i gyd.
Dylai pentrefi sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gysylltu â Calor ar 01962 629768, neu anfon e bost at: info@calorvillageoftheyear.org i holi am ffurflen gais. Am wybodaeth bellach am y gystadleuaeth, edrychwch hefyd ar wefan y gystadleuaeth (www.calorvillageoftheyear.org).
Croesewir ceisiadau gan bentrefi ar unwaith a’r dyddiad cau ar gyfer dychwelyd y ffurflenni cais yw Ebrill 30ain.
- diwedd -
Gwybodaeth bellach gan: Emma Flinn, Flent PR Ltd, un o gwmnïau Amaze plc
ffôn: 01223 845781 (uniongyrchol) / 0161 817 4200 (prif swyddfa)
e-bost: e.flinn@amaze.com
Nodiadau i Olygyddion:
2005 PENTREF Y FLWYDDYN CALOR® CYMRU
CANLYNIADAU TERFYNOL
Enillydd Cymru gyfan:
Clawddnewydd, Sir Ddinbych
Enillydd Gogledd Cymru:
Clawddnewydd, Sir Ddinbych
Enillydd De Cymru:
Ffarmers, Sir Gaerfyrddin
Enillwyr Categori Rhanbarthol Gogledd Cymru
| |
|
|
Categori |
Pentref |
Sir |
Bywyd Cymunedol |
Clawddnewydd |
Dinbych |
Busnes |
Clawddnewydd |
Dinbych |
Pobl Ifanc |
Llansannan |
Conwy |
Pobl Hŷn |
Brynteg |
Wrecsam |
Yr Amgylchedd |
Llansannan |
Conwy |
Technoleg Gwybodaeth & Chyfathrebu (TGCh) |
Brynteg |
Wrecsam |
| |
|
|
Enillwyr Categori Rhanbarthol De Cymru:
| |
|
|
Categori |
Pentref |
Sir |
Bywyd Cymunedol |
Ffarmers
Llanychâr (Gwobr Teilyngdod Neilltuol) |
Caerfyrddin
Penfro
|
Busnes |
Llandudoch |
Penfro |
Pobl Ifanc |
Llandudoch |
Penfro |
Pobl Hŷn |
Llanfair Llythynwg |
Powys |
Yr Amgylchedd |
Llandudoch |
Penfro |
Technoleg Gwybodaeth & Chyfathrebu (TGCh) |
Llanfihangel -y-Fedw |
Casnewydd |
| |
|
|
Pentref y Flwyddyn Calor®
Mae Calor, prif gyflenwr LPG (nwy petroliwm hylifol) i’r rhai sy’n byw a gweithio yng nghefn gwlad, wedi cefnogi gweithgareddau gwledig yng Nghymru, Yr Alban a Lloegr am 20 mlynedd drwy ei raglen o Nawdd Gwledig, sydd yn cynnwys cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Lloegr, cystadleuaeth Cymuned y Flwyddyn Calor yn yr Alban a’r llynedd, am y tro cyntaf, cystadleuaeth
Pentref y Flwyddyn Calor®. Mae’r tair cystadleuaeth yn cael eu trefnu a’u hariannu gan y cwmni pob blwyddyn.
Mae cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru yn agored i gymunedau gwledig sydd â phoblogaeth o 5,000 o bobl neu lai, drwy Gymru. Mae’n agored i bob Cyngor Bro neu grwpiau cymunedol eraill os ydynt yn cydymffurfio â’r meini prawf canlynol:
-
Cymdeithas neu ymddiriedolaeth leol sydd “ddim er elw” a sefydlwyd i wella iechyd cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol y gymuned leol.
-
Pwyslais cryf ar gyfranogaeth unigolion neu grwpiau lleol sy’n weithgar yn y gymuned.
-
Partneriaethau, rhwydweithiau neu fforymau sydd yn gweithredu o fewn cymuned leol.
Nodwch, os gwelwch yn dda, fod Pentref y Flwyddyn Calor® yn nod masnach cofrestredig a dylid cyfeirio ato yn llawn bob tro.
Mae beirniaid cenedlaethol Pentref y Flwyddyn Calor® yn edrych am gymunedau cytbwys, gweithgar, gofalgar sydd wedi gwneud y gorau o’r cyfleoedd lleol i gynnal a gwella ansawdd bywyd i’r holl drigolion – waeth be fo maint y pentref.
Mae cyfanswm o £8,500 o wobrau ariannol ar gael ar gyfer cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® 2006. £1,500 yw’r wobr gyntaf, gyda £500 yr un yn mynd i enillwyr rhanbarthol Gogledd a De Cymru. Ar ben hynny, mae chwe gwobr ariannol o £500 i’r Gogledd a’r De am y gwahanol gategorïau (yn cynnwys Bywyd Cymunedol, Busnes, yr Amgylchedd, Gofalu am Bobl Hŷn a Gofalu am Bobl Ifanc a Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu)
Am wybodaeth gyffredinol am gystadlaethau Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru a Lloegr:
e-bost: info@calorvillageoftheyear.org ffôn: 01962 629768neu edrychwch ar www.calorvillageoftheyear.org
Am wybodaeth bellach am gystadleuaeth Cymuned y Flwyddyn Calor® Yr Alban ewch i:
www.communityoftheyear.co.uk
|