Calor Village of the Year - Wales  
 
 

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

 

 
10th Anniversary
 
 
 
 
 
 
 
Calor
 

Datganiadau Diweddaraf

Llandudoch i Groesawu Ymwelwyr Brenhinol

Bydd pentref llwyddiannus Llandudoch, Sir Benfro, yn croesawu Tywysog Cymru a Duges Cernyw ar ymweliad â'r gymuned, Dydd Llun 3ydd Gorffennaf.

Enillodd Llandudoch dair gwobr categori ar gyfer De Cymru yng nghystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru y llynedd, gan ddod i'r brig yn y categorïau Busnes, Pobl Ifanc a'r Amgylchedd. Bydd yr ymweliad yn edrych ar rai agweddau o'r meysydd hyn yn y gymuned, gan orffen gyda chyflwyniad plac i gofio'r ymweliad yn ogystal â llwyddiant diweddar Llandudoch yng nghystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru.

Dywedodd Suzanne Weir, rheolwr Pentref y Flwyddyn Calor®: “Mae Tywysog Cymru wedi dilyn hynt cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® ers peth amser, ac mae wedi ymweld â phentrefi llwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf, yn cynnwys Pendoylan ym Mro Morgannwg lle cyhoeddwyd enillwyr rhanbarthol Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru gan y Tywysog. Pwrpas y gystadleuaeth yw cydnabod, dathlu a gwobrwyo cymunedau blaengar, cytbwys, gofalgar sydd, waeth be fo'u maint, wedi gwneud y gorau o'r cyfleoedd lleol i gynnal a gwella ansawdd bywyd i'w holl drigolion, ac yr ydym yn sicr y bydd enghreifftiau o fywyd pentref ar ei orau yn cael eu cyflwyno i'r Tywysog a'r Dduges yn ystod yr ymweliad â Llandudoch.”

Yn dilyn gwasanaeth eglwysig i ddathlu pen-blwydd y Frenhines yn bedwar ugain oed, bydd Tywysog Cymru a Duges Cernyw yn mynd ar daith gerdded o amgylch y pentref. Dilynir hyn gan grŵp trafod a fynychir gan aelodau o gymuned busnes Llandudoch a chynrychiolydd BITC (Business in the Community) – elusen o dan arweiniad busnes a gefnogir gan y Tywysog, sydd yn Llywydd yr elusen. Bydd hwn yn edrych ar y dulliau gorau o hybu gwobr newydd Calor, Gwobr Tafarn Wledig yn y Gymuned, a chynllun menter wledig BITC ‘Pub is the Hub’ drwy Gymru er mwyn cael y budd mwyaf i'r cymunedau.

Ychwanegodd Suzanne Weir: “Rydym yn hynod o falch y bydd Tywysog Cymru a Duges Cernyw yn treulio amser yn Llandudoch yn cyfarfod aelodau o'r gymuned ac yn cael blas o'r nodweddion hynny a enillodd dair gwobr categori i'r pentref yng nghystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru y llynedd. Rwyf yn gobeithio y bydd y gefnogaeth barhaus hon yn annog mwy a mwy o gymunedau Cymru i gymryd rhan yn y gystadleuaeth yn y blynyddoedd i ddod a'i helpu i fynd o nerth i nerth.”

Am wybodaeth bellach am gystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru, cysylltwch â Brian Challis ar 01962 629768, e bost info@calorvillageoftheyear.org. Gallwch gyfeirio hefyd at wefan ddwyieithog newydd y gystadleuaeth ar www.calorvillageoftheyear.org.

 

- diwedd -


Gwybodaeth bellach i'r wasg gan: Emma Flinn, Flent PR, un o gwmnïau Amaze plc
Ffôn: 0161 817 4200 / e bost: e.flinn@amaze.com

 

Nodiadau i Olygyddion:

Pentref y Flwyddyn Calor®

Mae Calor, prif gyflenwr LPG (nwy petroliwm hylifol) i’r rhai sy’n byw a gweithio yng nghefn gwlad, wedi cefnogi gweithgareddau gwledig yng Nghymru, Yr Alban a Lloegr am 20 mlynedd drwy ei raglen o Nawdd Gwledig, sydd yn cynnwys cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Lloegr, cystadleuaeth Cymuned y Flwyddyn Calor yn yr Alban a’r llynedd, am y tro cyntaf, cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor®. Mae’r tair cystadleuaeth yn cael eu trefnu a’u hariannu gan y cwmni pob blwyddyn.

Mae cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® yn agored i gymunedau gwledig gyda phoblogaeth o 5,000 neu lai drwy Gymru. Mae pob Cyngor Bro neu grŵp cymunedol arall yn cael gwneud cais os ydynt yn cyd-fynd â'r meini prawf canlynol:

  • Sefydliad heb fod er elw neu ymddiriedolaeth a sefydlwyd i wella iechyd cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol y gymuned leol.

  • Pwyslais cryf ar gynnwys unigolion neu grwpiau lleol sy'n weithredol yn y gymuned.

  • Partneriaethau, rhwydweithiau neu fforymau yn gweithio mewn cymuned leol.

Nodwch: mae Pentref y Flwyddyn Calor ® yn nod masnach cofrestredig a dylid cyfeirio ato yn llawn ym mhob amgylchiadau.

Mae beirniaid cenedlaethol Pentref y Flwyddyn Calor® yn edrych am gymunedau blaengar, cytbwys, gofalgar sydd, waeth be fo'u maint, wedi gwneud y gorau o gyfleoedd lleol i gynnal a gwella ansawdd bywyd i'r holl drigolion.

Mae cyfanswm y gwobrau ariannol ar gyfer cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru 2006 yn £8,500. Y wobr gyntaf yw £1,500 gyda £500 yn mynd i enillwyr rhanbarthol De a Gogledd Cymru. Ar ben hynny, mae chwe gwobr categori, o £500 yr un, yn Ne Cymru a Gogledd Cymru (am Fywyd Cymunedol, Busnes, Amgylchedd, Gofalu am Bobl Hŷn, Gofalu am Bobl ifanc, a Thechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu).

Am wybodaeth gyffredinol am gystadlaethau Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru a Lloegr, cysylltwch â:
e bost: info@calorvillageoftheyear.org, ffôn: 01962 629768neu ewch i: www.calorvillageoftheyear.org

Am fwy o wybodaeth am gystadleuaeth Cymuned y Flwyddyn Calor Yr Alban, ewch i: www.communityoftheyear.co.uk

 

 

 

Company Information | Terms and Conditions | Acceptable Use Policy