Calor Village of the Year - Wales  
 
 

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

 

 
10th Anniversary
 
 
 
 
 
 
 
Calor
 

Datganiadau Diweddaraf

Cam Yn Nes At Ysblander Pentref Y Flwyddyn Calor® Cymru

Mae pentref Llys-faen yng Nghaerdydd un cam yn nes at ennill teitl cenedlaethol, prif wobr o £1,500 ynghyd â chyfanswm o chwe gwobr categori o £500 ar ôl cael ei gynnwys ar restr fer cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru 2006.

Amcan y gystadleuaeth yw dathlu cyfoethogrwydd bywyd pentrefol ledled Cymru a chydnabod gorchestion cymunedau unigol. Mae pentrefi yn gallu dewis i gystadlu mewn hyd at chwech o gategorïau gwahanol ac mae Llys-faen yn cystadlu yng nghategorïau Bywyd Cymunedol, Busnes, Pobl Ifanc, Pobl Hyn, yr Amgylchedd a Thechnoleg Gwybodaeth.

Mae Llys-faen wedi cael ei ddewis ar gyfer rhestr fer De Cymru yn dilyn archwiliad o’u cyflwyniad ysgrifenedig gan feirniaid rhanbarthol. Mae’r pentref yn ymuno â Chasblaidd (Sir Benfro), Llandudoch (Sir Benfro), Cwmaman (Sir Gaerfyrddin), Rhiwfawr (Sir Gaerfyrddin), Y Wig (Bro Morgannwg), Gwenfô (Bro Morgannwg) a Begeli/Cilgeti (Sir Benfro). Mae’r pentrefi yma wedi cael eu dewis ar gyfer rhestr fer gwobrwyon categori rhanbarthol De Cymru yn y gystadleuaeth.

Mae’r wyth cymuned yn awr yn wynebu ymweliad gan y tîm beirniadu rhanbarthol. Fe fydd hyn yn gyfle i bentrefwyr ddod a’u pentrefi ‘yn fyw’ a phrofi pam eu bod yn haeddu cydnabyddiaeth genedlaethol ynghyd â rhan o’r ffynhonnell wobrwyon o £8,500.

Yn dilyn dosbarthiad y gwobrwyon categori gan dimau beirniadu rhanbarthol, fe fydd un pentref o Ogledd Cymru ag un o Dde Cymru yn cael eu dewis ar gyfer rownd derfynol y gystadleuaeth pan fydd prif enillydd Cymru yn cael ei ddewis. Fe fydd y canlyniadau i gyd yn cael eu cyhoeddi mewn digwyddiad gwobrwyo sydd i’w gynnal yng Nghaerdydd ar Hydref 31ain. Fe fydd cynrychiolwyr o bob pentref ar y rhestr fer yn cael gwahoddiad i’r digwyddiad yma.

Dywedodd Suzanne Weir, Rheolwraig Pentref y Flwyddyn®, “Rydym wedi hen arfer gyda safonau uchel gan bentrefi Cymru ac felly llongyfarchiadau i Lys-faen am gyrraedd rhestr fer De Cymru. Fe fydd gan ein timau beirniadu rhanbarthol dasg anodd o ddyrannu gwobrau categori ac yn arbennig o ddewis un pentref i fynd yn ei flaen i’r rownd derfynol o feirniadu. Hoffwn fanteisio ar y cyfle yma i ddymuno bob lwc i’r pentrefi ar y rhestr fer ac edrychaf ymlaen at gael clywed y canlyniadau llawn ym mis Hydref.”

Fe fydd y beirniaid yn Llysfaen am 1.30 yp ddydd Mercher, Awst 23ain. Ni fyddant yn treulio mwy na 2 awr yn y pentref.

Os hoffech fwy o wybodaeth am gystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru cysylltwch â Brian Challis ar 01962 629768, e-bost info@calorvillageoftheyear.org. Gallwch hefyd gyfeirio at wefan newydd ddwyieithog y gystadleuaeth sef www.calorvillageoftheyear.org.

 

- diwedd -

Mwy o wybodaeth i’r wasg gan Emma Flinn, Flent PR, Cwmni Amaze plc
ffôn: 0161 817 4200 / e-bost: e.flinn@amaze.com

Nodiadau i Olygyddion:

Pentref y Flwyddyn Calor®

Mae Calor, prif gyflenwydd NPH [nwy petrolewm hylifol] i bobl sydd yn byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad, wedi cefnogi gweithgareddau gwledig yn Lloegr, Yr Alban a Chymru am 20 mlynedd trwy’r rhaglen Gwobrwyo Wledig, sydd yn cynnwys cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor Lloegr®, cystadleuaeth Cymuned y Flwyddyn Calor Yr Alban® a chystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor Cymru®. Caiff y tair cystadleuaeth eu trefnu a’u cyllido gan y cwmni yn flynyddol.

Mae cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor Cymru® yn agored i gymunedau gwledig ledled Cymru sydd â phoblogaeth o 5,000 neu lai. Gall Cynghorau Cymuned neu grwpiau cymunedol eraill gyflwyno cais, os ydynt yn cyfarfod â’r criteria canlynol:

  • Mudiad lleol neu ymddiriedolaeth sydd “ddim yn gwneud elw” wedi ei sefydlu i wella iechyd cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol y gymuned leol.

  • Pwyslais cryf ar ymglymiad unigolion lleol neu grwpiau sydd yn weithgar o fewn y gymuned.

  • Partneriaethau, rhwydweithiau neu fforymau sydd yn weithredol o fewn cymuned leol.

Noder os gwelwch yn dda: Fod ‘Pentref y Flwyddyn Calor’ yn nod masnachol cofrestredig a dylid cyfeirio ato ymhob amgylchiad.
Mae beirniaid cenedlaethol cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® yn edrych am gymunedau gofalgar, cytbwys, rhyngweithiol sydd, beth bynnag eu maint, wedi gwneud y gorau o gyfleoedd lleol i gynnal a gwella safon byw eu holl breswylwyr.

Cyfanswm gwobrau ariannol cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor Cymru ® 2006 yw £8,500. Gwobr gyntaf o £1,500 gyda £500 yr un yn mynd i enillydd Gogledd a De Cymru. Yn ychwanegol i hyn, mae yna chwe gwobr categori o £500 yr un o fewn Gogledd a De Cymru (yn cynnwys Bywyd Cymunedol, Busnes, yr Amgylchedd, Gofal tros Bobl Hyn, Gofal tros Bobl Ifanc a Thechnoleg Gwybodaeth).

Os hoffech wybodaeth gyffredinol am gystadlaethau Pentref y Flwyddyn Calor Cymru a Lloegr:
e-bost: info@calorvillageoftheyear.org ffôn: 01962 629768ymwelwch â: www.calorvillageoftheyear.org

Am wybodaeth ar gystadleuaeth Cymuned y Flwyddyn Calor Yr Alban ymwelwch â:
www.communityoftheyear.co.uk


Cliciwch yma i lawr lwytho y datganiad i'r wasg yma mewn fformat Word

 

 

 

Company Information | Terms and Conditions | Acceptable Use Policy