Cam Yn Nes At Ysblander Pentref Y Flwyddyn Calor® Cymru
Mae pentref Cwmaman yn Sir Gaerfyrddin un cam yn nes at ennill teitl cenedlaethol, prif wobr o £1,500 ynghyd â chyfanswm o chwe gwobr categori o £500 ar ôl cael ei gynnwys ar restr fer cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru 2006.
Amcan y gystadleuaeth yw dathlu cyfoethogrwydd bywyd pentrefol ledled Cymru a chydnabod gorchestion cymunedau unigol. Mae pentrefi yn gallu dewis i gystadlu mewn hyd at chwech o gategorïau gwahanol ac mae Cwmaman yn cystadlu yng nghategorïau Bywyd Cymunedol, Busnes, Pobl Ifanc, Pobl Hyn, yr Amgylchedd a Thechnoleg Gwybodaeth.
Mae Cwmaman wedi cael ei ddewis ar gyfer rhestr fer De Cymru yn dilyn archwiliad o’u cyflwyniad ysgrifenedig gan feirniaid rhanbarthol. Mae’r pentref yn ymuno â Chasblaidd (Sir Benfro), Llandudoch (Sir Benfro), Begeli/Cilgeti (Sir Benfro), Rhiwfawr (Sir Gaerfyrddin), Y Wig (Bro Morgannwg), Gwenfô (Bro Morgannwg) a Llys-faen (Caerdydd). Mae’r pentrefi yma wedi cael eu dewis ar gyfer rhestr fer gwobrwyon categori rhanbarthol De Cymru yn y gystadleuaeth.
Mae’r wyth cymuned yn awr yn wynebu ymweliad gan y tîm beirniadu rhanbarthol. Fe fydd hyn yn gyfle i bentrefwyr ddod a’u pentrefi ‘yn fyw’ a phrofi pam eu bod yn haeddu cydnabyddiaeth genedlaethol ynghyd â rhan o’r ffynhonnell wobrwyon o £8,500.
Yn dilyn dosbarthiad y gwobrwyon categori gan dimau beirniadu rhanbarthol, fe fydd un pentref o Ogledd Cymru ag un o Dde Cymru yn cael eu dewis ar gyfer rownd derfynol y gystadleuaeth pan fydd prif enillydd Cymru yn cael ei ddewis. Fe fydd y canlyniadau i gyd yn cael eu cyhoeddi mewn digwyddiad gwobrwyo sydd i’w gynnal yng Nghaerdydd ar Hydref 31ain. Fe fydd cynrychiolwyr o bob pentref ar y rhestr fer yn cael gwahoddiad i’r digwyddiad yma.
Dywedodd Suzanne Weir, Rheolwraig Pentref y Flwyddyn®, “Rydym wedi hen arfer gyda safonau uchel gan bentrefi Cymru ac felly llongyfarchiadau i Gwmaman am gyrraedd rhestr fer De Cymru. Fe fydd gan ein timau beirniadu rhanbarthol dasg anodd o ddyrannu gwobrau categori ac yn arbennig o ddewis un pentref i fynd yn ei flaen i’r rownd derfynol o feirniadu. Hoffwn fanteisio ar y cyfle yma i ddymuno bob lwc i’r pentrefi ar y rhestr fer ac edrychaf ymlaen at gael clywed y canlyniadau llawn ym mis Hydref.”
Fe fydd y beirniaid yng Nghwmaman am 9.30 yp ddydd Mawrth, Awst 22ain. Ni fyddant yn treulio mwy na 2 awr yn y pentref.
Os hoffech fwy o wybodaeth am gystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru cysylltwch â Brian Challis ar 01962 629768, e-bost info@calorvillageoftheyear.org. Gallwch hefyd gyfeirio at wefan newydd ddwyieithog y gystadleuaeth sef www.calorvillageoftheyear.org.
- diwedd -
Mwy o wybodaeth i’r wasg gan Emma Flinn, Flent PR, Cwmni Amaze plc
ffôn: 0161 817 4200 / e-bost: e.flinn@amaze.com
Nodiadau i Olygyddion:
Pentref y Flwyddyn Calor®
Mae Calor, prif gyflenwydd NPH [nwy petrolewm hylifol] i bobl sydd yn byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad, wedi cefnogi gweithgareddau gwledig yn Lloegr, Yr Alban a Chymru am 20 mlynedd trwy’r rhaglen Gwobrwyo Wledig, sydd yn cynnwys cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor Lloegr®, cystadleuaeth Cymuned y Flwyddyn Calor Yr Alban® a chystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor Cymru®. Caiff y tair cystadleuaeth eu trefnu a’u cyllido gan y cwmni yn flynyddol.
Mae cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor Cymru® yn agored i gymunedau gwledig ledled Cymru sydd â phoblogaeth o 5,000 neu lai. Gall Cynghorau Cymuned neu grwpiau cymunedol eraill gyflwyno cais, os ydynt yn cyfarfod â’r criteria canlynol:
-
Mudiad lleol neu ymddiriedolaeth sydd “ddim yn gwneud elw” wedi ei sefydlu i wella iechyd cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol y gymuned leol.
-
Pwyslais cryf ar ymglymiad unigolion lleol neu grwpiau sydd yn weithgar o fewn y gymuned.
-
Partneriaethau, rhwydweithiau neu fforymau sydd yn weithredol o fewn cymuned leol.
Noder os gwelwch yn dda: Fod ‘Pentref y Flwyddyn Calor’ yn nod masnachol cofrestredig a dylid cyfeirio ato ymhob amgylchiad.
Mae beirniaid cenedlaethol cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® yn edrych am gymunedau gofalgar, cytbwys, rhyngweithiol sydd, beth bynnag eu maint, wedi gwneud y gorau o gyfleoedd lleol i gynnal a gwella safon byw eu holl breswylwyr.
Cyfanswm gwobrau ariannol cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor Cymru ® 2006 yw £8,500. Gwobr gyntaf o £1,500 gyda £500 yr un yn mynd i enillydd Gogledd a De Cymru. Yn ychwanegol i hyn, mae yna chwe gwobr categori o £500 yr un o fewn Gogledd a De Cymru (yn cynnwys Bywyd Cymunedol, Busnes, yr Amgylchedd, Gofal tros Bobl Hyn, Gofal tros Bobl Ifanc a Thechnoleg Gwybodaeth).
Os hoffech wybodaeth gyffredinol am gystadlaethau Pentref y Flwyddyn Calor Cymru a Lloegr:
e-bost: info@calorvillageoftheyear.org ffôn: 01962 629768ymwelwch â: www.calorvillageoftheyear.org
Am wybodaeth ar gystadleuaeth Cymuned y Flwyddyn Calor Yr Alban ymwelwch â:
www.communityoftheyear.co.uk
Cliciwch yma i lawr lwytho y datganiad i'r wasg yma mewn fformat Word
|