Cam Yn Nes At Ysblander Pentref Y Flwyddyn Calor® Cymru
Mae pentref Bleddfa ym Mhowys un cam yn nes at ennill cydnabyddiaeth genedlaethol ynghyd â dau wobr categori o £500 ar ôl cael ei gynnwys ar restr fer cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru 2006.
Amcan y gystadleuaeth yw dathlu cyfoethogrwydd bywyd pentrefol ledled Cymru a chydnabod gorchestion cymunedau unigol. Mae pentrefi yn gallu dewis i gystadlu mewn hyd at chwech o gategorïau gwahanol ac mae Bleddfa yn cystadlu yng nghategorïau Bywyd Cymunedol a’r Amgylchedd.
Mae Bleddfa wedi cael ei ddewis ar gyfer rhestr fer Gogledd Cymru yn dilyn archwiliad o’u cyflwyniad ysgrifenedig gan feirniaid rhanbarthol. Mae’r pentref yn ymuno â Threfriw (Conwy), Rhuallt (Sir Ddinbych), Moelfre (Ynys Môn), Llanymynech (Powys), Llanaelhaearn (Gwynedd), Brynteg (Wrecsam) ac Owyrtyn (Wrecsam). Mae’r pentrefi yma wedi cael eu dewis ar gyfer rhestr fer gwobrwyon categori rhanbarthol Gogledd Cymru yn y gystadleuaeth.
Mae’r wyth cymuned yn awr yn wynebu ymweliad gan y tîm beirniadu rhanbarthol. Fe fydd hyn yn gyfle i bentrefwyr ddod a’u pentrefi ‘yn fyw’ a phrofi pam eu bod yn haeddu cydnabyddiaeth genedlaethol ynghyd â rhan o’r ffynhonnell wobrwyon o £8,500.
Yn dilyn dosbarthiad y gwobrwyon categori gan dimau beirniadu rhanbarthol, fe fydd un pentref o Ogledd Cymru ag un o Dde Cymru yn cael eu dewis ar gyfer rownd derfynol y gystadleuaeth pan fydd prif enillydd Cymru yn cael ei ddewis. Fe fydd y canlyniadau i gyd yn cael eu cyhoeddi mewn digwyddiad gwobrwyo sydd i’w gynnal yng Nghaerdydd ar Hydref 31ain. Fe fydd cynrychiolwyr o bob pentref ar y rhestr fer yn cael gwahoddiad i’r digwyddiad yma.
Dywedodd Suzanne Weir, Rheolwraig Pentref y Flwyddyn®, “Rydym wedi hen arfer gyda safonau uchel gan bentrefi Cymru ac felly llongyfarchiadau i Fleddfa am gyrraedd rhestr fer Gogledd Cymru. Fe fydd gan ein timau beirniadu rhanbarthol dasg anodd o ddyrannu gwobrau categori ac yn arbennig o ddewis un pentref i fynd yn ei flaen i’r rownd derfynol o feirniadu. Hoffwn fanteisio ar y cyfle yma i ddymuno bob lwc i’r pentrefi ar y rhestr fer ac edrychaf ymlaen at gael clywed y canlyniadau llawn ym mis Hydref.”
Fe fydd y beirniaid ym Mleddfa am 10.00 yb, ddydd Iau, Medi 7fed. Ni fyddant yn treulio mwy nag awr yn y pentref.
Os hoffech fwy o wybodaeth am gystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru cysylltwch â Brian Challis ar 01962 629768, e-bost info@calorvillageoftheyear.org. Gallwch hefyd gyfeirio at wefan newydd ddwyieithog y gystadleuaeth sef www.calorvillageoftheyear.org.
- diwedd -
Mwy o wybodaeth i’r wasg gan Emma Flinn, Flent PR, Cwmni Amaze plc
ffôn: 0161 817 4200 / e-bost: e.flinn@amaze.com
Nodiadau i Olygyddion:
Pentref y Flwyddyn Calor®
Mae Calor, prif gyflenwydd NPH [nwy petrolewm hylifol] i bobl sydd yn byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad, wedi cefnogi gweithgareddau gwledig yn Lloegr, Yr Alban a Chymru am 20 mlynedd trwy’r rhaglen Gwobrwyo Wledig, sydd yn cynnwys cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor Lloegr®, cystadleuaeth Cymuned y Flwyddyn Calor Yr Alban® a chystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor Cymru®. Caiff y tair cystadleuaeth eu trefnu a’u cyllido gan y cwmni yn flynyddol.
Mae cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor Cymru® yn agored i gymunedau gwledig ledled Cymru sydd â phoblogaeth o 5,000 neu lai. Gall Cynghorau Cymuned neu grwpiau cymunedol eraill gyflwyno cais, os ydynt yn cyfarfod â’r criteria canlynol:
-
Mudiad lleol neu ymddiriedolaeth sydd “ddim yn gwneud elw” wedi ei sefydlu i wella iechyd cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol y gymuned leol.
-
Pwyslais cryf ar ymglymiad unigolion lleol neu grwpiau sydd yn weithgar o fewn y gymuned.
-
Partneriaethau, rhwydweithiau neu fforymau sydd yn weithredol o fewn cymuned leol.
Noder os gwelwch yn dda: Fod ‘Pentref y Flwyddyn Calor’ yn nod masnachol cofrestredig a dylid cyfeirio ato ymhob amgylchiad.
Mae beirniaid cenedlaethol cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® yn edrych am gymunedau gofalgar, cytbwys, rhyngweithiol sydd, beth bynnag eu maint, wedi gwneud y gorau o gyfleoedd lleol i gynnal a gwella safon byw eu holl breswylwyr.
Cyfanswm gwobrau ariannol cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor Cymru ® 2006 yw £8,500. Gwobr gyntaf o £1,500 gyda £500 yr un yn mynd i enillydd Gogledd a De Cymru. Yn ychwanegol i hyn, mae yna chwe gwobr categori o £500 yr un o fewn Gogledd a De Cymru (yn cynnwys Bywyd Cymunedol, Busnes, yr Amgylchedd, Gofal tros Bobl Hyn, Gofal tros Bobl Ifanc a Thechnoleg Gwybodaeth).
Os hoffech wybodaeth gyffredinol am gystadlaethau Pentref y Flwyddyn Calor Cymru a Lloegr:
e-bost: info@calorvillageoftheyear.org ffôn: 01962 629768ymwelwch â: www.calorvillageoftheyear.org
Am wybodaeth ar gystadleuaeth Cymuned y Flwyddyn Calor Yr Alban ymwelwch â:
www.communityoftheyear.co.uk
Cliciwch yma i lawr lwytho y datganiad i'r wasg yma mewn fformat Word
|