Calor Village of the Year - Wales  
 
 

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

 

 
10th Anniversary
 
 
 
 
 
 
 
Calor
 

Datganiadau Diweddaraf

Back

Chwefror 2006

Calor yn Galw Holl Bentrefi Cymru I Roi Cynnig Ar Y Gystadleuaeth Gymunedol Flynyddol

Mae pentrefi ar draws Cymru yn cael eu hannog i gymryd rhan yng nghystadleuaeth fawr Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru. Dathliad yw hwn o gyfoeth bywyd pentrefol ar draws y wlad ac mae’n gyfle ardderchog i gydnabod llwyddiannau cymunedau unigol a chroesewir ceisiadau gan bentrefi ar unwaith.

Lansiwyd cystadleuaeth Cymru gan Calor y llynedd, gyda Chlawddnewydd, Sir Ddinbych yn cael ei goroni’n enillydd Cymru gyfan. Cafodd y gystadleuaeth ymateb cadarnhaol o gymunedau drwy Gymru yn 2005 a’r gobaith yw y bydd mwy o bentrefi nag erioed yn cymryd rhan eleni. Dywedodd Suzanne Weir, rheolwr cyfathrebu Calor, “Mae’r gystadleuaeth hon yn gyfle gwych i bobl leol ddod at ei gilydd i bwyso a mesur, yn ogystal â dathlu, yr hyn y maent wedi’i gyflawni yn eu cymuned. Mae’r mwyafrif o’r bobl yr ydym ni yn siarad â hwy wedi synnu faint sy’n mynd ymlaen yn eu pentref ac maent yn dweud fod y gystadleuaeth ei hun - ar wahân i’r gwobrwyon - yn ffordd dda o gael pawb i gyd-dynnu a gwneud iddynt deimlo’n falch o’u cynefin.”

Mae cystadleuaeth ddwyieithog Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru yn agored i bob pentref o 5,000 o bobl neu lai, a gallant ddewis cymryd rhan mewn hyd at chwe chategori - Bywyd Cymunedol, Busnes, Pobl Ifanc, Pobl Hŷn, yr Amgylchedd a Thechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu - i gyd yn cydnabod rhagoriaeth leol. Mae gwobrau ariannol ar gael i enillwyr categori yn Ne a Gogledd Cymru, yn ogystal ag enillwyr rhanbarthol ar gyfer Gogledd a De Cymru. Bydd enillydd Cymru gyfan yn cael ei ddewis o’r ddau hwnnw.

Er mwyn i bentref gael ei ystyried ar gyfer y teitl Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru 2006, bydd rhaid iddo roi cynnig ar y chwe chategori i gyd.

Mae’r beirniaid yn edrych am: “Gymunedau cytbwys, gweithgar, gofalgar sydd wedi gwneud y gorau o’r cyfleoedd lleol i gynnal a gwella ansawdd bywyd i’r holl drigolion – waeth be fo maint y pentref”.

Dylai pentrefi sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gysylltu â Calor ar 01962 629768, neu anfon e bost at: info@calorvillageoftheyear.org i holi am ffurflen gais. Am wybodaeth bellach am y gystadleuaeth, edrychwch hefyd ar wefan y gystadleuaeth (www.calorvillageoftheyear.org).

Croesewir ceisiadau gan bentrefi yn awr a’r dyddiad cau ar gyfer dychwelyd y ffurflenni cais yw Ebrill 30ain.

- diwedd -

Gwybodaeth bellach gan: Emma Flinn, Flent PR Ltd, un o gwmnïau Amaze plc
ffôn: 01223 845781 (uniongyrchol) / 0161 817 4200 (prif swyddfa)
e-bost: e.flinn@amaze.com

Nodiadau i Olygyddion:

2005 PENTREF Y FLWYDDYN CALOR® CYMRU
CANLYNIADAU TERFYNOL

Enillydd Cymru gyfan:
Clawddnewydd, Sir Ddinbych

Enillydd Gogledd Cymru:
Clawddnewydd, Sir Ddinbych

Enillydd De Cymru:
Ffarmers, Sir Gaerfyrddin

Enillwyr Categori Rhanbarthol Gogledd Cymru

     

Categori

Pentref

Sir

Bywyd Cymunedol

Clawddnewydd

Dinbych

Busnes

Clawddnewydd

Dinbych

Pobl Ifanc

Llansannan

Conwy

Pobl Hŷn

Brynteg

Wrecsam

Yr Amgylchedd

Llansannan

Conwy

Technoleg Gwybodaeth & Chyfathrebu (TGCh)

Brynteg

Wrecsam

     

Enillwyr Categori Rhanbarthol De Cymru:

     

Categori

Pentref

Sir

Bywyd Cymunedol

Ffarmers

Llanychâr (Gwobr Teilyngdod Neilltuol)

Caerfyrddin

Penfro

 

Busnes

Llandudoch

Penfro

Pobl Ifanc

Llandudoch

Penfro

Pobl Hŷn

Llanfair Llythynwg

Powys

Yr Amgylchedd

Llandudoch

Penfro

Technoleg Gwybodaeth & Chyfathrebu (TGCh)

Llanfihangel -y-Fedw

Casnewydd

     

Pentref y Flwyddyn Calor®

Mae Calor, prif gyflenwr LPG (nwy petroliwm hylifol) i’r rhai sy’n byw a gweithio yng nghefn gwlad, wedi cefnogi gweithgareddau gwledig yng Nghymru, Yr Alban a Lloegr am 20 mlynedd drwy ei raglen o Nawdd Gwledig, sydd yn cynnwys cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Lloegr, cystadleuaeth Cymuned y Flwyddyn Calor yn yr Alban a’r llynedd, am y tro cyntaf, cystadleuaeth
Pentref y Flwyddyn Calor®. Mae’r tair cystadleuaeth yn cael eu trefnu a’u hariannu gan y cwmni pob blwyddyn.

Mae cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru yn agored i gymunedau gwledig sydd â phoblogaeth o 5,000 o bobl neu lai, drwy Gymru. Mae’n agored i bob Cyngor Bro neu grwpiau cymunedol eraill os ydynt yn cydymffurfio â’r meini prawf canlynol:

  • Cymdeithas neu ymddiriedolaeth leol sydd “ddim er elw” a sefydlwyd i wella iechyd cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol y gymuned leol.

  • Pwyslais cryf ar gyfranogaeth unigolion neu grwpiau lleol sy’n weithgar yn y gymuned.

  • Partneriaethau, rhwydweithiau neu fforymau sydd yn gweithredu o fewn cymuned leol.

Nodwch, os gwelwch yn dda, fod Pentref y Flwyddyn Calor® yn nod masnach cofrestredig a dylid cyfeirio ato yn llawn bob tro.

Mae beirniaid cenedlaethol Pentref y Flwyddyn Calor® yn edrych am gymunedau cytbwys, gweithgar, gofalgar sydd wedi gwneud y gorau o’r cyfleoedd lleol i gynnal a gwella ansawdd bywyd i’r holl drigolion – waeth be fo maint y pentref.

Mae cyfanswm o £8,500 o wobrau ariannol ar gael ar gyfer cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® 2006. £1,500 yw’r wobr gyntaf, gyda £500 yr un yn mynd i enillwyr rhanbarthol Gogledd a De Cymru. Ar ben hynny, mae chwe gwobr ariannol o £500 i’r Gogledd a’r De am y gwahanol gategorïau (yn cynnwys Bywyd Cymunedol, Busnes, yr Amgylchedd, Gofalu am Bobl Hŷn a Gofalu am Bobl Ifanc a Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu)

Am wybodaeth gyffredinol am gystadlaethau Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru a Lloegr:
e-bost: info@calorvillageoftheyear.org ffôn: 01962 629768neu edrychwch ar www.calorvillageoftheyear.org

Am wybodaeth bellach am gystadleuaeth Cymuned y Flwyddyn Calor® Yr Alban ewch i:
www.communityoftheyear.co.uk

 

 

 

 

Company Information | Terms and Conditions | Acceptable Use Policy