Amodau a Chanllawiau Ymgeisio
Mae’r beirniaid yn edrych am: “Gymunedau rhagweithiol, cytbwys, gofalgar, beth bynnag eu maint, sydd wedi manteisio ar gyfleoedd lleol i gynnal a gwella safon byw'r holl breswylwyr.”
Llwythwch i lawr y llyfryn canllawiau ymgeisio fel pdf (oddeutu 345Kb)
Mae Cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru yn agored i bob cymuned wledig ledled Cymru sydd a llai na 5,000 o boblogaeth. Gall Cynghorau Cymuned neu unrhyw grŵp cymunedol arall gyflwyno cais, cyn belled eu bod yn cyfarfod ag unrhywun o’r criteria canlynol:
|
Grŵp lleol neu ymddiriedolaeth sydd ‘ddim yn gwneud elw’ a sefydlwyd i wella iechyd cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol cymuned leol. |
|
Pwyslais cryf ar ymglymiad unigolion a grwpiau lleol sydd yn weithgar o fewn y gymuned. |
|
Partneriaethau, rhwydweithiau neu fforymau yn gweithredu o fewn cymuned leol. |
| |
|
Os ydych yn ansicr ynghylch cymhwyster eich grŵp dylech gysylltu â: Brian Challis, cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru, rhif ffôn: 01962 629768, e-bost: info@calorvillageoftheyear.org
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Ebrill 30ain, 2006. Efallai na fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad yma yn cael eu hystyried.
Mae’r gystadleuaeth yn asesu cymunedau ar chwe agwedd o fywyd gwledig pentrefol: Bywyd Cymunedol, Pobl Ifanc, Pobl Hyn, Yr Amgylchedd a Thechnoleg Gwybodaeth (TG). Gall pentrefi gystadlu mewn cyn gymaint neu cyn lleied o’r categorïau ac y maent yn dymuno. Rhoddir yr un ystyriaeth gytbwys i bentrefi sydd yn ymgeisio mewn categorïau penodol ar gyfer gwobrwyon categori, ac a roddir i’r rhai sydd yn ymgeisio ymhob un o’r chwe chategori. Ond, er mwyn i bentref gael ei ystyried ar gyfer y prif wobrwyon, fe fydd yn rhaid iddo gystadlu ymhob un o’r chwe chategori (rhowch gyfle arni - nid oes raid i chwi fod yn wych ymhob un i ennill un o’r prif wobrwyon).
Asesu Ceisiadau
Cyfyngir pob categori i 500 o eiriau. Ni ystyrir ceisiadau sydd yn cynnwys mwy na 500 o eiriau ymhob categori, neu sydd wedi methu amgáu cerdyn ymgeisio. Os hoffech fwy o wybodaeth ynghylch sut y bydd eich cais yn cael ei asesu neu i ddarllen canllawiau’r categorïau, cliciwch y ddolen briodol isod.
Dylai swyddog cydnabyddedig o’r corff cymunedol arwyddo'r cerdyn ymgeisio a dylid ei ddychwelyd at y trefnwyr cyn Ebrill 30ain 2006. Fe fydd gan y beirniaid ddisgresiwn i dderbyn unrhyw geisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad yma.
Ar ôl asesu'r ceisiadau, fe fydd panel o feirniaid yn trefnu i ymweld â’r cymunedau sydd yn cyrraedd rownd derfynol bob categori cyn penderfynu ar yr enillwyr. Fe fydd penderfyniad y beirniaid yn derfynol. Fe fydd y cymunedau buddugol yn derbyn eu gwobrwyon cyn diwedd 2006 ac fe fydd rhestr o enillwyr ar gael trwy ysgrifennu at y trefnwyr ar ôl y cyflwyniad.
Mae Cynghorau Cymuned, trwy ymgeisio yn y gystadleuaeth, yn cytuno i ganiatáu hawliau cyhoeddusrwydd llawn i’r trefnwyr. Dylid defnyddio gwobrau i ariannu prosiectau cymunedol a gellir amlinellu'r rhain yn eich cais, ond ni fydd hyn yn cael ei gymryd i ystyriaeth yn ystod y broses beirniadu.
Llwythwch i lawr y llyfryn canllawiau ymgeisio fel pdf (oddeutu 345Kb)
|