Calor Village of the Year - Wales  
 
 

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

 

 
10th Anniversary
 
 
 
 
 
 
 
Calor
 

Asesu Ceisiadau

Sut yr Asesir Eich Cais

Fe fydd pob ffurflen gais, a dderbynnir cyn Ebrill 30ain 2006 yn cael ei asesu.  Dylai swyddog cydnabyddedig o’r corff cymunedol arwyddo'r cerdyn ymgeisio.

Fe fydd pentrefi sydd yn cystadlu yn y Gystadleuaeth i Bentref y Flwyddyn Calor® Cymru yn cael eu rhannu i ddau ranbarth sef Gogledd Cymru a De Cymru.

Fe fydd beirniadu dechreuol y pentrefi hynny sydd yn cael eu dewis ar gyfer y rhestr fer, ar sail eu ceisiadau ysgrifenedig, yn cymryd lle yn ystod misoedd yr haf er mwyn penderfynu ar enillwyr categorïau Gogledd Cymru a De Cymru.  Fe fydd tîm o feirniaid yn ymweld â phob pentref ar y rhestr fer yn ystod y cyfnod yma.  Fe fydd pob ymweliad yn parhau am ddwy awr ac fe fydd yn gyfle i’r pentref gyflwyno cyflwyniad i’r beirniaid.  Fe fydd trefnydd beirniadu eich rhanbarth yn cysylltu â chwi mewn da o bryd i drafod amseriad ymweliad y beirniaid.

Fe fydd rhai pentrefi detholedig yn cael eu beirniadu ymhellach yn yr hydref.  Fe fydd panel o feirniaid rownd terfynol yn ymweld â’r pentrefi dethol yma.  Byddwn ond yn cysylltu gyda’r pentrefi a ddewisir i gael beirniadu pellach.  Fe ddylai’r paratoadau ar gyfer yr ymweliad yma fod yr un fath ag ymweliad cyntaf y beirniaid.  Ni ddylech gymryd yn ganiataol nad ydych wedi derbyn gwobr os na chaiff eich pentref ail ymweliad gan y beirniaid.

Ni fydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi tan Ginio Gwobrwyo Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru, sydd i’w gynnal ar Hydref 31ain, 2006.  Fe fydd pob pentref ar y rhestr fer yn cael gwahoddiad i anfon dau gynrychiolydd i’r cinio yma i ddathlu eu gorchestion.

 

 

 

Company Information | Terms and Conditions | Acceptable Use Policy