Calor Village of the Year - Wales  
 
 

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

 

 
10th Anniversary
 
 
 
 
 
 
 
Calor
 

Y Gystadleuaeth

Mae Cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru yn ei ail flwyddyn

Dechreuodd Calor redeg y gystadleuaeth y llynedd, ar ôl i’r trefnwyr benderfynu, ar ôl wyth mlynedd o redeg cystadleuaeth ar y cyd i Gymru a Lloegr, y byddai pentrefi Cymreig yn elwa o gael cystadleuaeth ei hun wedi ei ganolbwyntio yn arbennig ar eu hanghenion.  Mae’r gystadleuaeth, a drefnir gan Calor, yn rhoi’r cyfle i bentrefi sicrhau cydnabyddiaeth a gwobr am ei gorchestion.

 

Sut y gall eich cymuned elwa?

Mae’r Gystadleuaeth yn gyfle perffaith i gymunedau ganolbwyntio ar eu gorchestion.  Trwy weithio gyda'i gilydd er budd achos cystadleuol cyffredin, gall cymunedau adeiladu platfform ar gyfer datblygiad yn y dyfodol.

Un o elfennau allweddol Cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru yw annog cymunedau i weithio gyda’i gilydd, er mwyn amddiffyn hyfywdra hirdymor bywyd lleol.  Gall y frwydr yn erbyn gwaharddiad cymdeithasol, sydd yn broblem fawr o fewn ein cymdeithas brysur heddiw, gael cefnogaeth trwy’r gwobrwyon, gyda chanlyniadau sylweddol.

Mae yna nifer o fanteision i gystadlu: fe fydd cymunedau llwyddiannus yn elwa o’r clod cynyddol, a bydd hyn yn eu cynorthwyo i sicrhau llais wrth ddelio gyda materion o gonsyrn lleol.  Fe fydd sylw cynyddol y wasg, sydd ynghlwm wrth ymgeisio yn y gystadleuaeth yn denu sylw o’r tu allan i’r ardal leol, gyda’r potensial o ddenu buddsoddiad o bob rhan o Gymru.

Mae Cystadleuaeth 2006 yn agored i gymunedau hyd at Ebrill 30ain 2006. 

Fe fydd beirniadu yn cymryd lle yn ystod misoedd yr haf, a gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i seremoni gwobrwyo cyn diwedd 2006, pan gaiff Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru ei gyhoeddi.

 

Sut y gall pentrefi ymgeisio

Mae Cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru yn agored i bob cymuned wledig ledled Cymru sydd a llai na 5,000 o boblogaeth.  Gall Cynghorau Cymuned neu unrhyw grŵp cymunedol arall gyflwyno cais, cyn belled eu bod yn cyfarfod ag unrhywun o’r criteria canlynol:

Red bullet point

Grŵp lleol neu ymddiriedolaeth sydd ‘ddim yn gwneud elw’ a sefydlwyd i wella iechyd cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol cymuned leol.

Red bullet point

Pwyslais cryf ar ymglymiad unigolion a grwpiau lleol sydd yn weithgar o fewn y gymuned.

Red bullet point

Partneriaethau, rhwydweithiau neu fforymau yn gweithredu o fewn cymuned leol.

Fe fydd y beirniaid yn edrych am: “Gymunedau rhagweithiol, cytbwys, gofalgar, beth bynnag eu maint, sydd wedi manteisio ar gyfleoedd lleol i gynnal a gwella safon byw'r holl breswylwyr.”

Edrychwch ar ein canllaw i helpu asesu potensial eich pentref eich hun yn y gystadleuaeth.  Mae’r canllaw yn cynnwys categorïau'r gystadleuaeth ynghyd â chriteria beirniadu - mae’n ffordd ddelfrydol o werthuso cryfderau a gwendidau eich pentref.

Y Categorïau

Nid yw’r gystadleuaeth yn gwobrwyo bocsys blodau del neu lawnt y pentref.  Mae’r categorïau cystadlu yn edrych ar amrywiaeth o faterion cymunedol yn amrywio o gyfraniad pobl ifanc i’r pentref i’r amgylchedd a phobl hyn.

Mae’r gystadleuaeth yn asesu cymunedau ar chwe agwedd o fywyd gwledig pentrefol: Bywyd Cymunedol, Pobl Ifanc, Pobl Hyn, Yr Amgylchedd a Thechnoleg Gwybodaeth (TG).  Gall pentrefi gystadlu mewn cyn gymaint neu cyn lleied o’r categorïau ac y maent yn dymuno.  Rhoddir yr un ystyriaeth gytbwys i bentrefi sydd yn ymgeisio mewn categorïau penodol ar gyfer gwobrwyon categori, ac a roddir i’r rhai sydd yn ymgeisio ymhob un o’r chwe chategori.  Ond, er mwyn i bentref gael ei ystyried ar gyfer y prif wobrwyon, fe fydd yn rhaid iddo gystadlu ymhob un o’r chwe chategori (rhowch gyfle arni - nid oes raid i chwi fod yn wych ymhob un i ennill un o’r prif wobrwyon).

 

Y Gwobrwyon

Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru: £1,500

Pentref y Flwyddyn Calor® Gogledd Cymru a De Cymru: £500 yr un

Enillwyr Categori: £500 yr un

(Ar gyfer enillwyr categorïau Bywyd Cymunedol, Busnes, Pobl Ifanc, Pobl Hyn, Yr Amgylchedd a Thechnoleg Gwybodaeth yng Ngogledd Cymru a De Cymru)

Fe fydd yr enillwyr i gyd yn derbyn placiau coffaol ac/neu dystysgrifau.

 

Mwy o Wybodaeth

NODER: Ni fydd enillydd cystadleuaeth Gogledd Cymru a De Cymru yn 2005 yn gallu cystadlu yng Nghystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru 2006.

 

Os ydych yn ansicr ynghylch cymhwyster eich grŵp neu os hoffech fwy o wybodaeth, dylech gysylltu â: Cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor® Cymru, rhif ffôn: 01962 629768, e-bost: info@calorvillageoftheyear.org

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Ebrill 30ain, 2006.  Efallai na fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad yma yn cael eu hystyried.

 

 

 

Company Information | Terms and Conditions | Acceptable Use Policy